Nid oes unrhyw gasgliadau biniau neu ailgylchu yn digwydd ar ddydd Llun Gŵyl y Banc. Os mai dydd Llun yw eich diwrnod casglu arferol, bydd eich diwrnod casglu ar ddyddiad diwygiedig.
Os ydych chi’n disgwyl casgliad gwastraff gardd ddydd Mawrth, 5 Mai, mae hwn hefyd wedi’i aildrefnu i ddyddiad gwahanol.
Ni effeithir ar yr holl gasgliadau eraill ar gyfer gweddill yr wythnos, a bydd trigolion yn derbyn y rhain fel arfer.
Dyddiadau casglu diwygiedig
- Os oeddech chi’n disgwyl cael casgliad bin du/glas ac ailgylchu ddydd Llun, 4 Mai, bydd eich biniau du/glas yn cael eu casglu ddydd Mawrth, 5 Mai yn lle hynny, a gallwch roi unrhyw ailgylchu ychwanegol allan i ni ei gasglu ddydd Llun, 11 Mai.
- Os oeddech chi’n disgwyl cael casgliad gwastraff gardd ac ailgylchu ddydd Llun, 4 Mai, bydd eich gwastraff gardd yn cael ei gasglu ddydd Mercher, 6 Mai yn lle hynny, a gallwch roi unrhyw ailgylchu ychwanegol allan i ni ei gasglu ddydd Llun, 11 Mai.
- Os oeddech chi’n disgwyl cael casgliad gwastraff gardd ac ailgylchu ddydd Mawrth, 5 Mai byddeich gwastraff gardd yn cael ei gasglu ddydd Iau, 7 Mai yn lle hynny. Byddwch yn derbyn eich casgliad ailgylchu fel arfer ddydd Mawrth, 5 Mai.
Casgliadau gwastraff gardd
Os nad ydym yn gallu casglu eich gwastraff gardd ar eich dyddiad a drefnwyd, gadewch ef allan a byddwn yn ceisio ei gasglu erbyn diwedd yr wythnos.
Gwirio eich diwrnod casglu
Mae’r dudalen gwirio eich diwrnod casglu yn dangos dyddiadau eich pedwar casgliad nesaf a pha finiau ac ailgylchu y dylech eu rhoi allan. Ni fydd angen i chi fewngofnodi i weld eich diwrnod casglu, a gallwch edrych ar ran ffrindiau, aelodau o’r teulu a chymdogion trwy deipio eu cod post neu eu stryd.
Mae’n ffordd gyflym a hawdd o gadw trefn ar eich casgliadau.
Negeseuon atgoffa am gasgliadau
Ffordd arall o gael y wybodaeth ddiweddaraf yw trwy gofrestru i dderbyn negeseuon atgoffa am gasgliadau gwastraff. Os gwnewch hyn, byddwch yn cael e-bost i’ch atgoffa i roi eich biniau allan y diwrnod cyn i’ch casgliad ddigwydd. Mae hefyd yn ffordd wych o gael gwybod am unrhyw newidiadau a allai effeithio arnoch chi.
Ailgylchu ychwanegol
Os bydd eich bocsys ailgylchu yn llenwi, fe allwch chi adael unrhyw deunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu mewn cynhwysydd solet wrth ymyl eich gwastraff ailgylchu ar eich diwrnod casglu, ac fe awn ni â’r rheiny i’w hailgylchu hefyd (gan adael y cynhwysydd i chi ei ddefnyddio eto).
Ond os oes gennych chi ddeunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu, cofiwch eu gwahanu fel y byddech chi’n ei wneud fel arfer. Er enghraifft, os oes gennych chi boteli gwydr a phlastig yn ychwanegol, rhowch y rhai plastig mewn un cynhwysydd a’r rhai gwydr mewn cynhwysydd ar wahân.
Hefyd, fe wnawn ni gasglu cardfwrdd glân wedi’i blygu’n fflat ac wedi’i adael wrth ymyl y cynhwysydd, cyn belled ag nad ydi o’n dalach na’n lletach na sach glas safonol.
Canolfannau ailgylchu
Peidiwch ag anghofio, bydd y canolfannau ailgylchu ar agor ar ddydd Llun Gŵyl y Banc os oes angen i chi eu defnyddio.
Mae Lôn y Bryn ar agor rhwng 8am ac 8pm. Mae Plas Madoc a Brymbo (The Lodge) ar agor rhwng 9am ac 8pm.
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd – Newyddion Cyngor Wrecsam
Pryd caiff fy miniau eu casglu? Gwiriwch eich diwrnod casglu a chofrestrwch am negeseuon atgoffa.



