Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dim casgliadau biniau ar ddydd Llun Gŵyl y Banc (4 Mai)
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dim casgliadau biniau ar ddydd Llun Gŵyl y Banc (4 Mai)
Y cyngor

Dim casgliadau biniau ar ddydd Llun Gŵyl y Banc (4 Mai)

Diweddarwyd diwethaf: Mai 1, 2026 5:14 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Dim casgliadau biniau ar ddydd Llun Gŵyl y Banc
RHANNU

Nid oes unrhyw gasgliadau biniau neu ailgylchu yn digwydd ar ddydd Llun Gŵyl y Banc. Os mai dydd Llun yw eich diwrnod casglu arferol, bydd eich diwrnod casglu ar ddyddiad diwygiedig.

Cynnwys
  • Dyddiadau casglu diwygiedig
  • Casgliadau gwastraff gardd
  • Gwirio eich diwrnod casglu
  • Negeseuon atgoffa am gasgliadau
  • Ailgylchu ychwanegol
  • Canolfannau ailgylchu

Os ydych chi’n disgwyl casgliad gwastraff gardd ddydd Mawrth, 5 Mai, mae hwn hefyd wedi’i aildrefnu i ddyddiad gwahanol.

Ni effeithir ar yr holl gasgliadau eraill ar gyfer gweddill yr wythnos, a bydd trigolion yn derbyn y rhain fel arfer.

Dyddiadau casglu diwygiedig

  • Os oeddech chi’n disgwyl cael casgliad bin du/glas ac ailgylchu ddydd Llun, 4 Mai, bydd eich biniau du/glas yn cael eu casglu ddydd Mawrth, 5 Mai yn lle hynny, a gallwch roi unrhyw ailgylchu ychwanegol allan i ni ei gasglu ddydd Llun, 11 Mai.
  • Os oeddech chi’n disgwyl cael casgliad gwastraff gardd ac ailgylchu ddydd Llun, 4 Mai, bydd eich gwastraff gardd yn cael ei gasglu ddydd Mercher, 6 Mai yn lle hynny, a gallwch roi unrhyw ailgylchu ychwanegol allan i ni ei gasglu ddydd Llun, 11 Mai.
  • Os oeddech chi’n disgwyl cael casgliad gwastraff gardd ac ailgylchu ddydd Mawrth, 5 Mai byddeich gwastraff gardd yn cael ei gasglu ddydd Iau, 7 Mai yn lle hynny. Byddwch yn derbyn eich casgliad ailgylchu fel arfer ddydd Mawrth, 5 Mai.

Casgliadau gwastraff gardd

Os nad ydym yn gallu casglu eich gwastraff gardd ar eich dyddiad a drefnwyd, gadewch ef allan a byddwn yn ceisio ei gasglu erbyn diwedd yr wythnos.

Gwirio eich diwrnod casglu

Mae’r dudalen gwirio eich diwrnod casglu yn dangos dyddiadau eich pedwar casgliad nesaf a pha finiau ac ailgylchu y dylech eu rhoi allan. Ni fydd angen i chi fewngofnodi i weld eich diwrnod casglu, a gallwch edrych ar ran ffrindiau, aelodau o’r teulu a chymdogion trwy deipio eu cod post neu eu stryd.

Mae’n ffordd gyflym a hawdd o gadw trefn ar eich casgliadau.

Negeseuon atgoffa am gasgliadau

Ffordd arall o gael y wybodaeth ddiweddaraf yw trwy gofrestru i dderbyn negeseuon atgoffa am gasgliadau gwastraff. Os gwnewch hyn, byddwch yn cael e-bost i’ch atgoffa i roi eich biniau allan y diwrnod cyn i’ch casgliad ddigwydd. Mae hefyd yn ffordd wych o gael gwybod am unrhyw newidiadau a allai effeithio arnoch chi.

Cofrestrwch heddiw

Ailgylchu ychwanegol

Os bydd eich bocsys ailgylchu yn llenwi, fe allwch chi adael unrhyw deunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu mewn cynhwysydd solet wrth ymyl eich gwastraff ailgylchu ar eich diwrnod casglu, ac fe awn ni â’r rheiny i’w hailgylchu hefyd (gan adael y cynhwysydd i chi ei ddefnyddio eto).

Ond os oes gennych chi ddeunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu, cofiwch eu gwahanu fel y byddech chi’n ei wneud fel arfer. Er enghraifft, os oes gennych chi boteli gwydr a phlastig yn ychwanegol, rhowch y rhai plastig mewn un cynhwysydd a’r rhai gwydr mewn cynhwysydd ar wahân.

Hefyd, fe wnawn ni gasglu cardfwrdd glân wedi’i blygu’n fflat ac wedi’i adael wrth ymyl y cynhwysydd, cyn belled ag nad ydi o’n dalach na’n lletach na sach glas safonol.

Canolfannau ailgylchu

Peidiwch ag anghofio, bydd y canolfannau ailgylchu ar agor ar ddydd Llun Gŵyl y Banc os oes angen i chi eu defnyddio.

Mae Lôn y Bryn ar agor rhwng 8am ac 8pm. Mae Plas Madoc a Brymbo (The Lodge) ar agor rhwng 9am ac 8pm.

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd caiff fy miniau eu casglu? Gwiriwch eich diwrnod casglu a chofrestrwch am negeseuon atgoffa.

TAGGED:ailgylchubiniaubinsgwastraffrecyclingwaste
Rhannu
Erthygl flaenorol Efallai mai ymuno â'n tîm ni yw’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf… Efallai mai ymuno â’n tîm ni yw’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Erthygl nesaf Tŷ Pawb yn lleihau biliau ynni gyda system solar newydd – bron i hanner y pŵer bellach yn cael ei gynhyrchu ar y safle Tŷ Pawb yn lleihau biliau ynni gyda system solar newydd – bron i hanner y pŵer bellach yn cael ei gynhyrchu ar y safle

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
Housing Image
Y cyngor

Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru

Hydref 7, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English