Helpwch ni i greu mwy o fannau ‘chwarae’ yn y ddinas…
Mae Cyngor Wrecsam yn bwriadu creu mwy o fannau amlswyddogaethol bywiog yng nghanol y ddinas ar gyfer chwarae, gweithgareddau a phrosiectau creadigol… ond mae angen eich help chi arno!
Mae’r cyngor yn dymuno creu mwy o fannau sy’n groesawgar, yn gymdeithasol ac yn bleserus i bawb – gyda phwyslais penodol ar blant, pobl ifanc a theuluoedd.
Yn benodol, mae’n dymuno datblygu mannau creadigol newydd ar Stryt Henblas, hen safle yr Hippodrome a Stryt Caer – gan helpu i gefnogi cais cyffrous Wrecsam i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029.
Mae hen safle’r Hippodrome wedi bod yn bwnc llosg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a bydd llawer o bobl yn Wrecsam yn cofio’r hen sinema gyda hiraeth gynnes. Caeodd y sinema yn y 1990au a llosgwyd yr adeilad yn 2008.
Ers 2023 mae’r safle wedi bod yn gysylltiedig â Hollywood ar ôl i Rob McElhenney gyhoeddi cynigion ar gyfer Parc Coffa Ryan Rodney Reynolds – man cymunedol a enwyd er anrhydedd i’w gydberchennog Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Nawr mae’r cyngor yn bwrw ymlaen â’r cam dylunio gyda chymorth cwmni Rob, More Better, ac mae’n edrych ar sut y gall droi’r tir yn fan amlswyddogaethol chwarae, ynghyd â safleoedd eraill ar Stryt Henblas a Stryt Caer.
Fel rhan o hyn, mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i rannu eu syniadau mewn cyfres o sesiynau galw heibio yn Nhŷ Pawb.
Dyddiadau ac amseroedd
Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal yn ystod pythefnos ym mis Mai a Mehefin. Galwch heibio am bum munud, hanner awr neu beth bynnag sy’n addas – byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi!
Gynhelir pob sesiwn yn Nhŷ Pawb
Ym mis Mai
Dydd Llun 11eg: 12 – 5
Dydd Mawrth 12fed: 10 – 5
Dydd Mercher 13eg: 10 – 5
Dydd Iau 14eg: 10 – 7
Dydd Gwener: 10 – 5
Ym mis Mehefin
Dydd Llun 22ain: 12 – 5
Dydd Mawrth 23ain: 10 – 5
Dydd Mercher 24ain: 10 – 5
Dydd Iau 25ain: 10 – 7
Dydd Gwener 26ain: 10 – 5
Bydd y cyngor hefyd yn gweithio’n uniongyrchol gyda grwpiau lleol a phobl ifanc i helpu i lunio eu syniadau.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am ddarpariaeth chwarae yn Wrecsam: “Fel cyngor, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cyfleoedd i chwarae a chael hwyl, a dyna pam rydyn ni eisiau creu mwy o fannau chwarae yng nghanol y ddinas.
“Bydd y sesiynau yn addas i’r teulu gyda llawer o weithgareddau rhyngweithiol llawn hwyl, felly dewch draw.”
Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am adfywio canol y ddinas, “Rydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd o helpu’r ddinas i gyrraedd ei photensial llawn, ac rydyn ni wedi cwblhau nifer o brosiectau adfywio mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf – gan gynnwys y gwaith ar y Stryt Fawr a’r marchnadoedd dan do.
“Nawr rydyn ni eisiau edrych ar ffyrdd o roi bywyd newydd i fannau allweddol drwy eu gwneud yn fwy creadigol ac addas i deuluoedd, a dyma ddechrau menter gyffrous iawn.”
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, yr Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am y Ddinas Diwylliant “Mae’n ddyddiau cynnar, ond mae gennym ddyheadau gwirioneddol i wneud Wrecsam yn ddinas chwarae wirioneddol, a hoffem weld cymaint o bobl â phosibl yn galw heibio i un o’n sesiynau i ddarganfod mwy a helpu i lunio ein cynlluniau.
“Bydd creu mannau chwarae mwy bywiog yng nghanol y ddinas yn helpu i gefnogi cais Wrecsam i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029, felly cymerwch ran.”



