Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gofalwyr maeth yn Wrecsam yn rhannu eiliadau ‘arwyddocaol’ ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gofalwyr maeth yn Wrecsam yn rhannu eiliadau ‘arwyddocaol’ ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth
Pobl a lleY cyngor

Gofalwyr maeth yn Wrecsam yn rhannu eiliadau ‘arwyddocaol’ ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth

Diweddarwyd diwethaf: Mai 11, 2026 1:00 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Maethu Cymru Wrecsam  Foster Wales Wrexham
RHANNU

Erthgyl Gwadd – Maethu Cymru Wrecsam

‘Gall sefydlogrwydd fod y trobwynt sy’n newid popeth i blentyn mewn gofal.’

Y tro cyntaf i blentyn chwerthin, siarad am eu diwrnod, gofyn am wylio ffilm; mae’r rhain yn eiliadau y gallai llawer eu cymryd yn ganiataol, ond i ofalwyr maeth yng Nghymru, maen nhw’n symbol o un peth – datblygiad.

Mae plant sydd wedi profi trawma yn aml yn datblygu ffyrdd o amddiffyn eu hunain. Gallai hyn gynnwys ymddygiad fel gorbryder, cau eu hunain yn emosiynol, ymatebion dwys neu anhawster o ran dilyn rheolau.

Mae arolwg cenedlaethol a gomisiynwyd gan Maethu Cymru wedi canfod bod tua 80% o’r gofalwyr a holwyd wedi cefnogi plant sy’n dangos ymddygiad fel hyn. Er bod yr heriau hyn yn gallu bod yn anodd, dywedodd hanner y gofalwyr maeth a holwyd hefyd eu bod nhw wedi sylwi ar ddatblygiad ystyrlon o fewn y chwe mis cyntaf.

Rhannodd gofalwyr maeth fod yr eiliadau arwyddocaol hyn yn aml yn digwydd o gwmpas eiliadau bach o gysylltiad, ond maen nhw’n cynrychioli mwy na hynny: i blant mewn gofal, mae’n golygu eu bod nhw wedi gwneud cynnydd, maen nhw wedi dechrau teimlo’n ddiogel, maen nhw wedi dechrau gwella, teimlo eu bod nhw’n cael eu caru a theimlo eu bod nhw’n cael eu cefnogi ar ôl trawma yn ystod plentyndod.

Ar ôl profiad, cefnogaeth ac arweiniad proffesiynol, dywedodd bron pob gofalwr (93%) eu bod nhw bellach yn hyderus wrth ymateb i ymddygiad sy’n gysylltiedig â thrawma.

Mae’r canfyddiadau’n cael eu rhyddhau cyn y Pythefnos Gofal Maeth, ymgyrch flynyddol fwyaf y DU i godi ymwybyddiaeth o faethu, sy’n cael ei chynnal bob mis Mai. Mae’r thema eleni, Dyma yw Maethu, yn taflu goleuni ar brofiadau gwirioneddol gofalwyr maeth a’r rôl hanfodol maen nhw’n ei chwarae wrth helpu plant i deimlo’n ddiogel.

Mae Lisa wedi bod yn ofalwr maeth gyda’i hawdurdod lleol yn Wrecsam ers dros bedair blynedd. Mae hi’n disgrifio maethu fel “y peth mwyaf gwerth chweil, arbennig, hollol amhrisiadwy y gallwch chi ei wneud.”

Mae hi’n egluro: “Roedden ni eisiau darparu a rhoi’r cariad sydd gennym ni i’r plant hyn, ac mae wedi bod yn hudolus – gweld eu hwynebau, eu gwylio nhw’n datblygu, a gweld yr hyder y gallan nhw ei ennill o gael eu caru a chael amgylchedd diogel.

“Mae maethu hefyd wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar ein dau blentyn ein hunain. Maen nhw wedi datblygu cymaint o empathi a gofal, ac yn union fel fi a Kate, mae ganddyn nhw lawer iawn o gariad i’w roi.  Mae wedi dod â ni i gyd yn agosach at ein gilydd fel teulu ac wedi dangos i ni pa mor bwerus y gall cartref sefydlog, cariadus fod.”

Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, yr Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Plant: “Rydyn ni’n falch iawn o’n Gofalwyr Maeth yn Wrecsam. Rydyn ni’n falch o glywed bod gofalwyr maeth yn cael mynediad at yr adnoddau sydd ar gael iddyn nhw, ac mae’r rhain yn cael effaith gadarnhaol ar y plant yn eu gofal wrth gefnogi materion cymhleth fel trawma yn ystod plentyndod.”

 “Mae Maethu Cymru Wrecsam wedi ymrwymo i gefnogi gofalwyr maeth drwy uchafbwyntiau ac isafbwyntiau maethu, ac mae’r arolwg yn dangos pa mor bwysig a gwerthfawr yw’r gefnogaeth leol honno.”

Yn ystod Pythefnos Gofal Maeth eleni, gallwch gwrdd â Thîm Maethu Cymru Wrecsam a Gofalwyr Maeth yng Nghanolfan Adnoddau Cymunedol Acton, Wrecsam, LL12 7LB ar 20 Mai, 10am – 2pm.

I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth yn Wrecsam, ewch i wefan Maethu Cymru Wrecsam.

Rhannu
Erthygl flaenorol Rhannwch eich barn ar gynlluniau cyffrous ar gyfer Stryt Henblas, hen safle yr Hippodrome a Stryt Caer Rhannwch eich barn ar gynlluniau cyffrous ar gyfer Stryt Henblas, hen safle yr Hippodrome a Stryt Caer
Erthygl nesaf Dechreuwch eich gyrfa gyda Chyngor Wrecsam – Cynllun Hyfforddi Amgylcheddol a Thechnegol a Chynllun Prentis peirianneg cerbydau modur Dechreuwch eich gyrfa gyda Chyngor Wrecsam – Cynllun Hyfforddi Amgylcheddol a Thechnegol a Chynllun Prentis peirianneg cerbydau modur

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English