Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Rhannwch eich barn ar gynlluniau cyffrous ar gyfer Stryt Henblas, hen safle yr Hippodrome a Stryt Caer
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Rhannwch eich barn ar gynlluniau cyffrous ar gyfer Stryt Henblas, hen safle yr Hippodrome a Stryt Caer
Pobl a lle

Rhannwch eich barn ar gynlluniau cyffrous ar gyfer Stryt Henblas, hen safle yr Hippodrome a Stryt Caer

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 19, 2026 2:23 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Rhannwch eich barn ar gynlluniau cyffrous ar gyfer Stryt Henblas, hen safle yr Hippodrome a Stryt Caer
RHANNU

Cofiwch! Cynhelir ein rownd nesaf o sesiynau galw heibio (dydd Llun, 22 Mehefin – dydd Gwener, 26 Mehefin) yn Nhŷ Pawb.

Beth am alw heibio i weld sut mae pethau’n dod ymlaen? Cymerwch olwg ar rai o’n syniadau yn seiliedig ar adborth o’r rownd gyntaf o sesiynau galw heibio, a rhannwch eich syniadau a’ch barn chi.


Helpwch ni i greu mwy o fannau ‘chwarae’ yn y ddinas…

Mae Cyngor Wrecsam yn bwriadu creu mwy o fannau amlswyddogaethol bywiog yng nghanol y ddinas ar gyfer chwarae, gweithgareddau a phrosiectau creadigol… ond mae angen eich help chi arno!

Mae’r cyngor yn dymuno creu mwy o fannau sy’n groesawgar, yn gymdeithasol ac yn bleserus i bawb – gyda phwyslais penodol ar blant, pobl ifanc a theuluoedd.

Yn benodol, mae’n dymuno datblygu mannau creadigol newydd ar Stryt Henblas, hen safle yr Hippodrome a Stryt Caer – gan helpu i gefnogi cais cyffrous Wrecsam i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2029.

Mae hen safle’r Hippodrome wedi bod yn bwnc llosg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a bydd llawer o bobl yn Wrecsam yn cofio’r hen sinema gyda hiraeth gynnes. Caeodd y sinema yn y 1990au a llosgwyd yr adeilad yn 2008.

Ers 2023 mae’r safle wedi bod yn gysylltiedig â Hollywood ar ôl i Rob McElhenney gyhoeddi cynigion ar gyfer Parc Coffa Ryan Rodney Reynolds – man cymunedol a enwyd er anrhydedd i’w gydberchennog Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Nawr mae’r cyngor yn bwrw ymlaen â’r cam dylunio gyda chymorth cwmni Rob, More Better, ac mae’n edrych ar sut y gall droi’r tir yn fan amlswyddogaethol chwarae, ynghyd â safleoedd eraill ar Stryt Henblas a Stryt Caer.

Fel rhan o hyn, mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu gwahodd i rannu eu syniadau mewn cyfres o sesiynau galw heibio yn Nhŷ Pawb.

Dyddiadau ac amseroedd

Bydd y sesiynau yn cael eu cynnal yn ystod pythefnos ym mis Mai a Mehefin. Galwch heibio am bum munud, hanner awr neu beth bynnag sy’n addas – byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi!

Gynhelir pob sesiwn yn Nhŷ Pawb

Ym mis Mai

Dydd Llun 11eg: 12 – 5

Dydd Mawrth 12fed: 10 – 5

Dydd Mercher 13eg: 10 – 5

Dydd Iau 14eg: 10 – 7

Dydd Gwener: 10 – 5

Ym mis Mehefin

Dydd Llun 22ain: 12 – 5

Dydd Mawrth 23ain: 10 – 5

Dydd Mercher 24ain: 10 – 5

Dydd Iau 25ain: 10 – 7

Dydd Gwener 26ain: 10 – 5

Bydd y cyngor hefyd yn gweithio’n uniongyrchol gyda grwpiau lleol a phobl ifanc i helpu i lunio eu syniadau.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am ddarpariaeth chwarae yn Wrecsam: “Fel cyngor, rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael cyfleoedd i chwarae a chael hwyl, a dyna pam rydyn ni eisiau creu mwy o fannau chwarae yng nghanol y ddinas.

“Bydd y sesiynau yn addas i’r teulu gyda llawer o weithgareddau rhyngweithiol llawn hwyl, felly dewch draw.”

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am adfywio canol y ddinas, “Rydyn ni bob amser yn chwilio am ffyrdd o helpu’r ddinas i gyrraedd ei photensial llawn, ac rydyn ni wedi cwblhau nifer o brosiectau adfywio mawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf – gan gynnwys y gwaith ar y Stryt Fawr a’r marchnadoedd dan do.

“Nawr rydyn ni eisiau edrych ar ffyrdd o roi bywyd newydd i fannau allweddol drwy eu gwneud yn fwy creadigol ac addas i deuluoedd, a dyma ddechrau menter gyffrous iawn.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, yr Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am y Ddinas Diwylliant “Mae’n ddyddiau cynnar, ond mae gennym ddyheadau gwirioneddol i wneud Wrecsam yn ddinas chwarae wirioneddol, a hoffem weld cymaint o bobl â phosibl yn galw heibio i un o’n sesiynau i ddarganfod mwy a helpu i lunio ein cynlluniau.

“Bydd creu mannau chwarae mwy bywiog yng nghanol y ddinas yn helpu i gefnogi cais Wrecsam i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029, felly cymerwch ran.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Cymuned Gyfeillgar i Ddementia Gogledd Cymru North Wales Dementia Friendly Community Allech chi helpu i sicrhau bod Wrecsam yn fwy cyfeillgar i ddementia?
Erthygl nesaf Maethu Cymru Wrecsam  Foster Wales Wrexham Gofalwyr maeth yn Wrecsam yn rhannu eiliadau ‘arwyddocaol’ ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026
DigwyddiadauDatgarboneiddio Wrecsam

Ailgylchwch eich ceblau diangen ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol E-Wastraff 2026

Hydref 13, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Pobl a lle

Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr

Hydref 12, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English