Cadarnhaodd Cyngor Wrecsam ei ymrwymiad i gefnogi deiliaid Bathodynnau Glas drwy gwblhau gwiriadau rheolaidd i atal camddefnyddio’r bathodyn neu barcio anghyfreithlon mewn mannau dynodedig yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o’r Bathodyn Glas.
Roedd lleoliadau’r gwiriadau yn cynnwys Stryt y Brenin, Stryt y Priordy, Stryt y Dug, Stryt Argyle, Ffordd Rhosddu, Stryt Egerton, Stryt y Rhaglaw, meysydd parcio’r Llyfrgell/Byd Dŵr, a maes parcio Stryt y Farchnad, sydd i gyd yn ardaloedd sy’n adnabyddus am ddefnydd uchel o fathodynnau glas.
Mae swyddogion gorfodi’r cyngor yn ymchwilio i achosion o gamddefnyddio Bathodynnau Glas i sicrhau bod unigolion ag anableddau yn cael eu cefnogi ac yn gallu parcio’n agos at eu cyrchfan naill ai fel teithiwr neu yrrwr.
Cafodd mwy na 200 o fathodynnau eu gwirio, a dim ond nifer fach ohonynt oedd yn cael eu defnyddio’n anghywir. Nodwyd bod deiliaid bathodynnau dilys yn croesawu’r dull o fynd i’r afael â chamddefnydd.
Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o’r Bathodyn Glas 2026
Roedd Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o’r Bathodyn Glas 2026, a gynhaliwyd rhwng 11 Mai a 15 Mai, yn ymgyrch genedlaethol gydlynol i gefnogi awdurdodau lleol i fynd i’r afael ag achosion o gamddefnyddio Bathodynnau Glas, diogelu mynediad at leoedd parcio i bobl anabl, a chasglu data gorfodi ystyrlon.
Mae cynllun y Bathodyn Glas yn hanfodol i ddeiliaid bathodynnau. Mae’n rhoi annibyniaeth i bobl ac yn caniatáu i ddeiliaid bathodynnau fynd ati i fyw eu bywydau bob dydd gydag urddas.
Ein nodau ar gyfer Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o’r Bathodyn Glas oedd:
- Gorfodi yn erbyn camddefnydd
- Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ganlyniadau camddefnydd
- Darparu cymorth i ddeiliaid bathodynnau dilys
Camddefnydd
Mae camddefnyddio Bathodyn Glas yn drosedd. Os ydych chi’n defnyddio Bathodyn Glas yn anonest, rydych chi’n atal unigolion ag anableddau rhag gallu parcio lle mae angen iddynt.
Rydym yn trin achosion o gamddefnyddio Bathodyn Glas o ddifrif, a gall arwain at ddirwy o £1000.
“Mae’n hollol annerbyniol i bobl gamddefnyddio’r system bathodynnau”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor sydd â chyfrifoldeb am orfodi parcio: “Mae cynllun y Bathodyn Glas yno i gefnogi pobl ag anableddau ac mae’n hollol annerbyniol i bobl gamddefnyddio’r system bathodynnau. Mae’n dda gwybod bod deiliaid bathodynnau dilys yn gadarnhaol am y gwiriadau ac yn eu croesawu.
“Dro ar ôl tro rydyn ni’n gweld ceir mewn mannau parcio i bobl anabl heb fathodyn glas ac mae’n annheg ar y rhai sydd wir angen parcio yn y mannau hyn. Gofynnaf i’r cyhoedd sicrhau nad yw’r cynllun bathodynnau yn cael ei gamddefnyddio fel bod y rhai sydd â hawl i’w defnyddio yn gallu gwneud eu tasgau bob dydd gydag annibyniaeth ac urddas.”
Mae cyngor ar ddefnyddio Bathodyn Glas yn gywir ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Os ydych chi’n amau bod Bathodyn Glas yn cael ei gamddefnyddio gallwch roi gwybod i ni amdano.
Mae rhagor o wybodaeth am gynllun y Bathodyn Glas ar gael ar ein gwefan.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.



