Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Buddsoddiad parhaus yn helpu i gefnogi’r defnydd cynyddol o fysus yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Buddsoddiad parhaus yn helpu i gefnogi’r defnydd cynyddol o fysus yn Wrecsam
Y cyngor

Buddsoddiad parhaus yn helpu i gefnogi’r defnydd cynyddol o fysus yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mai 13, 2026 12:07 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
bus station
RHANNU

Mae buddsoddiad parhaus Cyngor Wrecsam mewn gwasanaethau bysus lleol yn helpu i gefnogi cynnydd yn nifer y teithwyr, a gwella mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus ar draws y fwrdeistref sirol. 

Ers 2023, mae Cyngor Wrecsam wedi cymeradwyo £650,000 o gyllid i gefnogi gwasanaethau bysus lleol ychwanegol. 

Mae’r buddsoddiad wedi helpu i ddarparu llwybrau newydd a gwasanaethau estynedig gyda’r nos, gyda chyfanswm nifer y teithwyr sy’n defnyddio’r gwasanaethau ychwanegol hyn bellach yn fwy na 163,000.

Mae’r ffigurau’n adeiladu ar y cyhoeddiad diweddar y bwriedir ymestyn oriau agor gorsaf fysus Wrecsam yn dilyn twf parhaus yn y defnydd o fysus a buddsoddiad parhaus mewn gwasanaethau trafnidiaeth leol.

Mae disgwyl i’r gwasanaeth diogelwch yn yr orsaf fysus gael ei ymestyn o 6pm i 10pm o ddydd Llun 18 Mai.

Bydd y buddsoddiad ychwanegol hefyd yn cael ei ddefnyddio i adnewyddu seilwaith allweddol safleoedd bysus, gan gynnwys baneri safleoedd bysus a llochesi bysus ledled y fwrdeistref sirol.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol dros Drafnidiaeth Strategol, “Rydym wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd diwethaf i gefnogi a gwella gwasanaethau bysus lleol yn Wrecsam, ac mae’n galonogol gweld bod y buddsoddiad hwn yn cael ei ddefnyddio gan deithwyr.”

“Mae mwy na 163,000 o deithiau teithwyr bellach wedi’u gwneud ar y gwasanaethau ychwanegol, sy’n dangos pwysigrwydd darparu trafnidiaeth gyhoeddus ddibynadwy a hygyrch i’n cymunedau.”

Mae gwaith pellach hefyd yn cael ei wneud ar ddyfodol gwasanaethau bysus yn Wrecsam ac ar draws gogledd Cymru.

Ar hyn o bryd mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu Rhwydwaith Sylfaen arfaethedig, a fydd yn nodi sut beth fyddai llwybrau bysus yn y dyfodol. Disgwylir i ymgynghoriad cyhoeddus gael ei gynnal yn Wrecsam yn ystod mis Mehefin a mis Gorffennaf.

Bydd gwaith partneriaeth pellach hefyd yn parhau i gefnogi gwelliannau i wasanaethau bysus lleol, ac yn annog mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus ar draws Wrecsam.

Mae rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus ar draws Wrecsam ar gael ar wefan Traveline Cymru.

Rhannu
Erthygl flaenorol Gofod cydweithio Canolfan Greadigol newydd i'w lansio yn yr Hen Lyfrgell Gofod cydweithio Canolfan Greadigol newydd i’w lansio yn yr Hen Lyfrgell
Erthygl nesaf Cyrtiau tennis Parc Bwlchgwyn yn ailagor ar ôl adnewyddu Cyrtiau tennis Parc Bwlchgwyn yn ailagor ar ôl adnewyddu

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English