Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyngor Wrecsam yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o’r Bathodyn Glas
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cyngor Wrecsam yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o’r Bathodyn Glas
Y cyngor

Cyngor Wrecsam yn cefnogi Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o’r Bathodyn Glas

Diweddarwyd diwethaf: Mai 19, 2026 10:45 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Blue badge holders only parking
RHANNU

Cadarnhaodd Cyngor Wrecsam ei ymrwymiad i gefnogi deiliaid Bathodynnau Glas drwy gwblhau gwiriadau rheolaidd i atal camddefnyddio’r bathodyn neu barcio anghyfreithlon mewn mannau dynodedig yn ystod Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o’r Bathodyn Glas.

Cynnwys
  • Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o’r Bathodyn Glas 2026
  • Camddefnydd
  • “Mae’n hollol annerbyniol i bobl gamddefnyddio’r system bathodynnau”

Roedd lleoliadau’r gwiriadau yn cynnwys Stryt y Brenin, Stryt y Priordy, Stryt y Dug, Stryt Argyle, Ffordd Rhosddu, Stryt Egerton, Stryt y Rhaglaw, meysydd parcio’r Llyfrgell/Byd Dŵr, a maes parcio Stryt y Farchnad, sydd i gyd yn ardaloedd sy’n adnabyddus am ddefnydd uchel o fathodynnau glas.

Mae swyddogion gorfodi’r cyngor yn ymchwilio i achosion o gamddefnyddio Bathodynnau Glas i sicrhau bod unigolion ag anableddau yn cael eu cefnogi ac yn gallu parcio’n agos at eu cyrchfan naill ai fel teithiwr neu yrrwr.

Cafodd mwy na 200 o fathodynnau eu gwirio, a dim ond nifer fach ohonynt oedd yn cael eu defnyddio’n anghywir. Nodwyd bod deiliaid bathodynnau dilys yn croesawu’r dull o fynd i’r afael â chamddefnydd.

Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o’r Bathodyn Glas 2026

Roedd Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o’r Bathodyn Glas 2026, a gynhaliwyd rhwng 11 Mai a 15 Mai, yn ymgyrch genedlaethol gydlynol i gefnogi awdurdodau lleol i fynd i’r afael ag achosion o gamddefnyddio Bathodynnau Glas, diogelu mynediad at leoedd parcio i bobl anabl, a chasglu data gorfodi ystyrlon.

Mae cynllun y Bathodyn Glas yn hanfodol i ddeiliaid bathodynnau. Mae’n rhoi annibyniaeth i bobl ac yn caniatáu i ddeiliaid bathodynnau fynd ati i fyw eu bywydau bob dydd gydag urddas.

Ein nodau ar gyfer Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o’r Bathodyn Glas oedd:

  • Gorfodi yn erbyn camddefnydd
  • Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ganlyniadau camddefnydd
  • Darparu cymorth i ddeiliaid bathodynnau dilys

Camddefnydd

Mae camddefnyddio Bathodyn Glas yn drosedd. Os ydych chi’n defnyddio Bathodyn Glas yn anonest, rydych chi’n atal unigolion ag anableddau rhag gallu parcio lle mae angen iddynt.

Rydym yn trin achosion o gamddefnyddio Bathodyn Glas o ddifrif, a gall arwain at ddirwy o £1000.

“Mae’n hollol annerbyniol i bobl gamddefnyddio’r system bathodynnau”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor sydd â chyfrifoldeb am orfodi parcio: “Mae cynllun y Bathodyn Glas yno i gefnogi pobl ag anableddau ac mae’n hollol annerbyniol i bobl gamddefnyddio’r system bathodynnau. Mae’n dda gwybod bod deiliaid bathodynnau dilys yn gadarnhaol am y gwiriadau ac yn eu croesawu.

“Dro ar ôl tro rydyn ni’n gweld ceir mewn mannau parcio i bobl anabl heb fathodyn glas ac mae’n annheg ar y rhai sydd wir angen parcio yn y mannau hyn. Gofynnaf i’r cyhoedd sicrhau nad yw’r cynllun bathodynnau yn cael ei gamddefnyddio fel bod y rhai sydd â hawl i’w defnyddio yn gallu gwneud eu tasgau bob dydd gydag annibyniaeth ac urddas.”

Mae cyngor ar ddefnyddio Bathodyn Glas yn gywir ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Os ydych chi’n amau bod Bathodyn Glas yn cael ei gamddefnyddio gallwch roi gwybod i ni amdano.

Mae rhagor o wybodaeth am gynllun y Bathodyn Glas ar gael ar ein gwefan.

Buddsoddiad parhaus yn helpu i gefnogi’r defnydd cynyddol o fysus yn Wrecsam – Newyddion Cyngor Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

TAGGED:parcioparking
Rhannu
Erthygl flaenorol Sir Wrecsam yn cael ei Harddangos mewn Digwyddiadau Masnach Twristiaeth Allweddol yn y DU ac yn Rhyngwladol Sir Wrecsam yn cael ei Harddangos mewn Digwyddiadau Masnach Twristiaeth Allweddol yn y DU ac yn Rhyngwladol
Erthygl nesaf Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English