Gyda rhagolygon tywydd cynhesach dros y dyddiau nesaf, mae pobl yn cael eu hannog i gymryd camau syml i gadw’n ddiogel ac edrych allan am eraill.
Gall tymheredd uwch effeithio ar unrhyw un, ond mae rhai pobl yn fwy mewn perygl o fynd yn sâl mewn tywydd poeth. Mae hyn yn cynnwys pobl hŷn, babanod a phlant ifanc, pobl â chyflyrau iechyd hirdymor, a’r rhai a allai ei chael hi’n anoddach cadw’n oer.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhannu cyngor i helpu pobl i amddiffyn eu hunain ac eraill yn ystod cyfnodau o dywydd poeth.
Arhoswch allan o’r gwres
- Ceisiwch aros dan do, yn enwedig rhwng hanner dydd a 3pm.
- Osgowch weithgareddau awyr agored anodd fel chwaraeon, DIY neu arddio. Os nad yw hyn yn bosibl, gwnewch hynny yn ystod rhannau oerach y dydd.
- Defnyddiwch eli haul neu blociau haul i helpu i atal llosg haul.
- Gorchuddiwch gyda chrys-t neu ddillad rhydd eraill.
- Gwisgwch het i gysgodi’ch pen a sbectol haul i amddiffyn eich llygaid.
Oeri
- Yfwch ddigon o ddŵr, o leiaf wyth gwydraid y dydd. Osgowch alcohol, te a choffi gan eu bod yn gallu eich dadhydradu.
- Cymerwch fath neu gawod oer, neu chwistrellu eich wyneb gyda dŵr oer i oeri.
Cadwch eich amgylchedd yn oerach
- Diffoddwch oleuadau ac offer trydanol nad ydynt yn hanfodol – maen nhw’n cynhyrchu gwres.
- Cadwch blanhigion dan do a bowlenni o ddŵr yn y tŷ – mae anwedd yn helpu i oeri’r aer.
- Os yn bosibl, symudwch i ystafell oerach, yn enwedig ar gyfer cysgu.
- Gall ffaniau trydan ddarparu rhywfaint o ryddhad, ond peidiwch â’u defnyddio os nad oes angen.
- Arhoswch yn y rhannau oeraf o’r adeilad gymaint â phosibl.
- Cadwch ystafelloedd cysgodol ac yn oer trwy gau bleindiau a llenni ac agor ffenestri.
Cadwch lygad ar bobl eraill
- Cadwch lygad ar bobl ynysig, oedrannus, sâl neu ifanc iawn a gwnewch yn siŵr eu bod yn gallu cadw’n oer.
- Sicrhau nad yw babanod, plant a phobl oedrannus yn cael eu gadael ar eu pennau eu hunain mewn ceir llonydd.
- Galwch heibio ar gymdogion, teulu neu ffrindiau oedrannus neu sâl bob dydd os yn bosibl.
- Byddwch yn effro a ffonio meddyg neu wasanaethau cymdeithasol os yw rhywun yn sâl neu os oes angen help pellach.
Os oes gennych broblem iechyd
- Cadwch feddyginiaethau o dan 25 gradd Celsius neu yn yr oergell (darllenwch y cyfarwyddiadau storio ar y pecynnu).
- Gofynnwch am gyngor meddygol os ydych chi’n dioddef o gyflwr iechyd cronig / cymryd sawl meddyginiaeth.
Os ydych chi neu eraill yn teimlo’n sâl
- Ceisiwch gael help os ydych chi’n teimlo’n pendro, yn wan, yn bryderus neu os oes gennych syched dwys a cur pen.
- Symudwch i le oer cyn gynted â phosibl a mesurwch dymheredd eich corff.
- Yfwch ychydig o ddŵr neu sudd ffrwythau i ailhydradu.
- Gorffwyswch ar unwaith mewn lle oer os oes cewch dyniadau cyhyrau poenus (yn enwedig yn y coesau, breichiau neu’r stumog, mewn llawer o achosion ar ôl ymarfer corff parhaus yn ystod tywydd poeth iawn), ac yfwch doddiannau ailhydradu sy’n cynnwys electrolytau.
- Mae angen sylw meddygol os yw crampiau gwres yn para mwy nag awr.
- Ymgynghorwch â’ch meddyg os ydych chi’n teimlo symptomau anarferol neu os yw’r symptomau’n parhau.
Am ragor o gyngor, ewch i dudalen canllawiau Tywydd Poeth Iechyd Cyhoeddus Cymru.



