Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Teganau feirol newydd yn sbarduno rhybudd diogelwch i drigolion a manwerthwyr Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Teganau feirol newydd yn sbarduno rhybudd diogelwch i drigolion a manwerthwyr Wrecsam
Y cyngor

Teganau feirol newydd yn sbarduno rhybudd diogelwch i drigolion a manwerthwyr Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 8, 2026 11:30 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Teganau feirol newydd yn sbarduno rhybudd diogelwch i drigolion a manwerthwyr Wrecsam
RHANNU

Mae tîm Safonau Masnach Cyngor Wrecsam yn rhybuddio trigolion a manwerthwyr lleol i fod yn ofalus wrth brynu neu werthu teganau meddal poblogaidd sy’n gysylltiedig â chwiw ddiweddar ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r rhybudd yn dod ar ôl i dîm Safonau Masnach Cyngor Abertawe ganfod teganau meddal ffug a rhai nad oeddent yn cydymffurfio yn cael eu gwerthu i ddefnyddwyr, gyda phryderon yn cael eu codi ynghylch cynhyrchion a allai fod yn anniogel, diffyg gwybodaeth diogelwch, arogleuon cemegol anarferol, a diffyg manylion clir am y cyflenwyr.

Er nad oes unrhyw eitemau wedi’u hatafaelu’n lleol hyd yn hyn, mae swyddogion Safonau Masnach Cyngor Wrecsam yn annog trigolion a busnesau i fod yn wyliadwrus.

Gall teganau ffug roi plant mewn perygl gan y gallent fod wedi’u gwneud yn wael, cynnwys deunyddiau anniogel, neu fethu â bodloni gofynion diogelwch teganau’r DU.

Teganau feirol newydd yn sbarduno rhybudd diogelwch i drigolion a manwerthwyr Wrecsam
Teganau feirol newydd yn sbarduno rhybudd diogelwch i drigolion a manwerthwyr Wrecsam

Cynghorir trigolion i gymryd gofal ychwanegol cyn prynu teganau, yn enwedig o farchnadoedd ar-lein, hysbysebion ar y cyfryngau cymdeithasol, gwerthwyr dros dro neu wefannau anghyfarwydd.

Cyn prynu, dylai defnyddwyr wneud y canlynol:

  • Gwirio’r pris – os yw’n edrych yn rhy dda i fod yn wir, mae’n debyg ei fod.
  • Prynu o wefannau swyddogol neu fanwerthwyr dibynadwy.
  • Chwilio am farciau diogelwch clir, fel CE neu UKCA.
  • Sicrhau bod y tegan yn cynnwys cyfarwyddiadau diogelwch a chanllaw oedran.
  • Gwneud yn siŵr bod y deunydd pacio yn cynnwys manylion gwneuthurwr neu fewnforiwr sydd wedi’i leoli yn y DU.
  • Bod yn wyliadwrus o deganau sydd ag arogl cemegol cryf neu debyg i betrol.
  • Osgoi cynhyrchion sydd â deunydd pacio o ansawdd gwael, camgymeriadau sillafu neu wybodaeth ar goll.

Mae manwerthwyr hefyd yn cael eu hatgoffa bod ganddynt gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau bod unrhyw deganau maen nhw’n eu gwerthu yn cydymffurfio â chyfraith diogelwch y DU.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gynllunio a Diogelu’r Cyhoedd: “Rydym yn gwybod y gall tueddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol wneud rhai teganau yn hynod boblogaidd yn gyflym iawn, ac yn anffodus gall fersiynau ffug ymddangos yr un mor gyflym.”

“Ein cyngor yw bod yn ofalus, prynu oddi wrth werthwyr ag enw da, a sicrhau bod gan deganau y wybodaeth a’r marciau diogelwch cywir cyn eu rhoi nhw i blant.”

“Er nad ydym wedi atafaelu unrhyw un o’r cynhyrchion hyn ar hyn o bryd, rydyn ni am i drigolion a manwerthwyr fod yn ymwybodol o’r risgiau a chymryd y camau syml hyn i amddiffyn plant.”

Mae rhagor o wybodaeth am ddiogelwch teganau ar gael ar wefan Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau ymhlith Plant.

Gall unrhyw un sydd â phryderon am degan maen nhw wedi’i brynu neu sy’n credu bod teganau anniogel neu ffug yn cael eu gwerthu yn Wrecsam roi gwybod amdano i Linell Gymorth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 08082231133. Os hoffech siarad ag ymgynghorydd yn Gymraeg, cysylltwch â 08082231144.

Os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, deialwch 18001 yn gyntaf i gyrraedd Relay UK, lle gallwch deipio’r hyn yr hoffech ei ddweud yn lle hynny.

Rhannu
Erthygl flaenorol Apêl cotiau gaeaf yn helpu 156 o blant i gadw'n gynnes Apêl cotiau gaeaf yn helpu 156 o blant i gadw’n gynnes
Erthygl nesaf Helpu Wrecsam i heneiddio'n dda trwy gysylltiadau cymunedol cryfach Helpu Wrecsam i heneiddio’n dda trwy gysylltiadau cymunedol cryfach

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English