Bydd teuluoedd ledled Wrecsam yn gallu cael mynediad at ofal plant a ariennir Dechrau’n Deg i bob plentyn dwy oed cyn bo hir, wrth i’r rhaglen nodi 20 mlynedd o gefnogi plant a theuluoedd yng Nghymru.
O fis Mehefin 2026 ymlaen, bydd rhieni a gofalwyr pob plentyn dwy oed yn Wrecsam yn gymwys i gael hyd at 12.5 awr o ofal plant a ariennir o ansawdd uchel bob wythnos, waeth ble maent yn byw yn y fwrdeistref sirol.
Wrecsam yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Ngogledd Cymru i ymestyn y cynnig gofal plant Dechrau’n Deg i bob plentyn dwy oed. Mae’n dilyn Merthyr Tudful, Abertawe a Chasnewydd wrth gyrraedd y garreg filltir bwysig hon.
Mae Dechrau’n Deg yn rhaglen i’r blynyddoedd cynnar a ariennir gan Lywodraeth Cymru, a lansiwyd yn 2006, sy’n cefnogi teuluoedd â phlant o dan bedair oed.
Mae’r rhaglen yn darparu pecyn o gymorth, gan gynnwys gofal plant wedi’i ariannu, ymweliadau iechyd manylach, cymorth rhianta, a chymorth gyda lleferydd, iaith a chyfathrebu.
Ers mis Ebrill 2023, mae Dechrau’n Deg wedi derbyn buddsoddiad sylweddol gan Lywodraeth Cymru drwy ehangu graddol, gan ymestyn gofal plant o ansawdd uchel i filoedd yn fwy o blant a theuluoedd ledled Cymru.
Rhwng 2023 a 2025, rhagorodd y rhaglen ar ei tharged o gefnogi 9,500 o blant dwy oed ychwanegol, gyda lleoedd gofal plant yn cael eu cynnig i fwy na 13,400 o blant a mwy na 10,000 yn manteisio ar le. Dros oes y rhaglen, mae mwy na £1.35 biliwn wedi’i fuddsoddi yn Dechrau’n Deg.
Canfu’r gwerthusiad cenedlaethol o Dechrau’n Deg, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2026, fod y rhaglen yn gwneud gwahaniaeth diriaethol i deuluoedd a phlant ledled Cymru, gyda rhieni’n adrodd yn gyson am fanteision cadarnhaol gofal plant a ariennir.
Mae teuluoedd yn Wrecsam sydd eisoes wedi derbyn gofal plant a ariennir Dechrau’n Deg hefyd wedi adrodd am yr effaith gadarnhaol y mae wedi’i chael ar eu plant. Gall gofal plant o ansawdd uchel gefnogi datblygiad, hyder, annibyniaeth, sgiliau cymdeithasol a pharodrwydd plant ar gyfer yr ysgol.
Bydd ehangu’r rhaglen hefyd yn cefnogi darparwyr gofal plant ledled Wrecsam, gan helpu i yrru gwelliannau ansawdd a chefnogi cynaliadwyedd hirdymor y sector.
Dywedodd Sioned Williams, Dirprwy Brif Weinidog Cymru, sy’n gyfrifol am ofal plant: “Mae costau gofal plant yn rhy uchel, ac fel llywodraeth newydd, rydym yn benderfynol o fynd i’r afael â hynny.
“Rwy’n arbennig o falch bod Wrecsam bellach yn ehangu ei chynnig gofal plant i bob plentyn dwy oed, a byddwn yn parhau i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i gyflwyno hyn ym mhobman. Mae hyn yn wario gyda phwrpas, gyda phob punt yn gweithio’n galetach dros Gymru a heddiw rwy’n falch o gyhoeddi buddsoddiad pellach i gefnogi’r gwaith o ehangu gofal plant a ariennir i blant dwy oed ledled Cymru.
“Ein cynnig gofal plant yw’r mwyaf uchelgeisiol yn y DU gyfan ac rwy’n falch bod y gwaith i’w gyflawni yn unol â’n Cynllun 100 Diwrnod Cyntaf yn mynd rhagddo’n dda, gan gynnwys sefydlu Grŵp Arbenigol a fydd yn gyrru’r gwaith yn ei flaen.”
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg yng Nghyngor Wrecsam, “Mae hon yn garreg filltir wych i Wrecsam ac yn gam cadarnhaol iawn i blant a theuluoedd lleol.”
“Mae ymestyn gofal plant a ariennir Dechrau’n Deg i bob plentyn dwy oed yn golygu y bydd mwy o deuluoedd yn gallu cael mynediad at gymorth o ansawdd uchel i’r blynyddoedd cynnar ar gam pwysig yn natblygiad eu plentyn.”
“Rydyn ni’n gwybod bod y blynyddoedd cynnar yn hanfodol wrth roi’r dechrau gorau posibl i blant mewn bywyd. Mae Dechrau’n Deg yn helpu plant i feithrin hyder, annibyniaeth a sgiliau cymdeithasol, ac mae hefyd yn cefnogi rhieni a gofalwyr.”
“Dw i’n arbennig o falch mai Wrecsam yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Ngogledd Cymru i gyrraedd y cam hwn o ehangu Dechrau’n Deg, ac edrychwn ymlaen at weld y manteision i deuluoedd ar draws y fwrdeistref sirol.”




