Cyngor Wrecsam yn parhau i gydweithio â Solar Windows LTD ar Fenter Ffenestri a Drysau Fawr
Mae rhaglen ffenestri a drysau Cyngor Wrecsam yn rhan allweddol o’i ymrwymiad ehangach i ddarparu cartrefi sy’n bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru ac yn cyfrannu at ddatgarboneiddio’r stoc dai.
Er ei bod yn rhaglen hirdymor, mae’n cydnabod gwerth gosod ffenestri gwydr triphlyg a drysau cyfansawdd, sy’n gwella effeithlonrwydd thermol a diogelwch cartrefi yn sylweddol.
O 10 Ebrill, mae 1723 eiddo ar draws y Fwrdeistref wedi derbyn gosodiadau newydd drwy’r rhaglen.
Mae’r holl ffenestri a drysau yn cael eu cyflenwi gan Solar Windows LTD, sydd wedi gweithio’n agos gyda ni i warantu defnydd o gynhyrchion o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar ddatgarboneiddio.
Mae’r broses yn cynnwys anfon yr hen ffenestri at waith ailgylchu ‘REHAU’ yn Runcorn lle maent yn cael eu prosesu’n sglodion i ddechrau, cyn cael eu trosglwyddo i’w cyfleuster ym Mlaenau Ffestinog i’w toddi i baratoi i’w hailddefnyddio wrth gynhyrchu proffil ffenestr PVCU newydd. Mae REHAU yn gwmni sefydledig sy’n cael ei gydnabod am ei ddulliau arloesol, ynni-effeithlon yn y maes hwn.
Mae’r archebion proffil a gyflenwir gan ffatri REHAU ym Mlaenau yn cynnwys cyfran o ddeunydd wedi’i ailgylchu, sy’n debygol o ddod yn rhannol o wastraff hen ffenestri PVC Wrecsam. Yna mae Solar Windows Ltd yn cynhyrchu’r ffenestri a’r drysau newydd yn eu cyfleuster yng Nghaerffili, gan helpu i gau cylch bywyd y cynnyrch trwy ddychwelyd cynhyrchion PVCU wedi’u hailgylchu i stoc dai Wrecsam fel system gwydr triphlyg perfformiad uchel.
Mae’r dull cylchol hwn yn cryfhau cydweithio â diwydiant Cymru ac yn dangos ymrwymiad a rennir i gadw buddsoddiad a budd economaidd yng Nghymru.
Budd Cymunedol Solar Windows Ltd
Fel rhan o gontract ffenestri a drysau’r Cyngor, mae gan Solar Windows LTD rwymedigaeth i sicrhau Budd Cymunedol, sy’n seiliedig ar eu gwariant Contract gyda ni.
Beth yw budd cymunedol?
Nod y polisi Budd Cymunedol yw ehangu’r syniad o werth am arian drwy sicrhau bod contractau’r sector cyhoeddus yng Nghymru hefyd yn darparu manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol—nid dim ond y nwyddau, y gwasanaethau neu’r gwaith angenrheidiol.
Fel rhan o’i Fudd Cymunedol, mae Solar Windows Ltd wedi dewis mynd y tu hwnt i ddarparu addysg i fyfyrwyr lleol – bydd yn cynnig profiadau dysgu ymarferol, rhyngweithiol i fyfyrwyr Coleg Wrecsam, gan ganolbwyntio ar ailgylchu ffenestri a drysau, prosesau allwthio, a chyfleoedd gyrfa o fewn y diwydiant i fyfyrwyr sy’n dysgu am brosesau tebyg.
Mewn cydweithrediad â REHAU, bydd Solar Windows yn gosod wal ryngweithiol yng Ngholeg Cambria a fydd yn addysgu myfyrwyr ar Raglen Ffenestri barhaus Cyngor Wrecsam.
Bydd yn cynnwys hen ffenestri go iawn o eiddo Cyngor Wrecsam a bydd yn dangos sut maent yn cael eu torri i lawr, eu hailgylchu a’u trawsnewid yn gynnyrch proffil ffenestri newydd gan REHAU a’u gweithgynhyrchu’n ffenestri gan Solar Windows Ltd.
Bydd ffenestr newydd ei chynhyrchu yn cael ei harddangos ar ddiwedd y wal ryngweithiol. Yn ogystal, bydd cyfle i’r myfyrwyr ymweld â’r ffatri ailgylchu ym Mlaenau Ffestiniog yn y dyfodol agos.
Mae hyn yn dangos ymrwymiad clir gan Solar Windows a’r Cyngor i flaenoriaethu datgarboneiddio, bod yn wyrdddach, gyda dim deunydd yn mynd i safleoedd tirlenwi. Gan gydnabod pa mor bwysig yw sicrhau buddion cymunedol i ysbrydoli ac addysgu pobl ifanc yn Wrecsam, mae Solar Windows Ltd yn falch o gefnogi cyfleoedd sy’n helpu myfyrwyr i ddeall y diwydiant, datblygu sgiliau newydd, a meddwl am lwybrau gyrfa yn y dyfodol. Mae gallu buddsoddi’n uniongyrchol yn ôl i’r gymuned yn y modd hwn yn rhywbeth maen nhw’n falch iawn o fod yn rhan ohono.
Mae Adran Tai Cyngor Wrecsam yn falch o fod yn rhan o’r gwaith cydweithredol hwn gyda diwydiannau Cymru i ddarparu tai o ansawdd da sy’n bodloni Safonau Ansawdd Tai Cymru, tra hefyd yn helpu i arfogi’r genhedlaeth nesaf gyda gwybodaeth a chyfleoedd sydd wedi’u gwreiddio mewn cynaliadwyedd ac arloesedd.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Tai, “Mae ffenestri a drysau yn brosiect parhaus sy’n cael ei gwblhau yn unol â chyllideb y Rhaglen Gyfalaf. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ein hymrwymiad i ddatgarboneiddio ein stoc dai a chydymffurfio â Safonau Ansawdd Tai Cymru. Rydym yn falch o fod yn gweithio ar y cyd â diwydiannau Cymru.”




