Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Annog Llywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol o Wrecsam i Lundain
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Annog Llywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol o Wrecsam i Lundain
Y cyngor

Annog Llywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol o Wrecsam i Lundain

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 10, 2026 3:31 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Annog Llywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol o Wrecsam i Lundain
RHANNU

Mae galwadau ar Lywodraeth Cymru i gefnogi cynigion ar gyfer gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol newydd rhwng Wrecsam a Llundain Euston.

Mae’r Cynghorydd David A Bithell, yr Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd sy’n gyfrifol am drafnidiaeth strategol, wedi ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth i dynnu sylw at bwysigrwydd gwasanaethau arfaethedig Rheilffordd Wrecsam, Swydd Amwythig a Chanolbarth Lloegr.

Pe bai’r cynigion yn cael eu gwireddu, byddai hyd at bum trên y dydd yn gweithredu o Wrecsam i Lundain Euston drwy’r Amwythig, gan helpu i wella cysylltiadau rheilffordd uniongyrchol rhwng Gogledd Cymru, Canolbarth Lloegr a Llundain.

Yn gynharach eleni, teithiodd ASau lleol a phartneriaid o awdurdodau lleol i 10 Stryd Downing i gyflwyno deiseb yn galw am y gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol newydd. Mae cefnogaeth wleidyddol barhaus i’r cynigion wrth i gais Rheilffordd Wrecsam, Swydd Amwythig a Chanolbarth Lloegr fynd rhagddo.

Mae disgwyl i’r gwasanaethau arfaethedig gefnogi twf economaidd ehangach yn Wrecsam a gallent hefyd greu hyd at hanner cant o swyddi newydd.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, “Mae gwella cysylltedd rheilffyrdd rhwng Wrecsam a Llundain yn hynod bwysig i’n dinas a’r rhanbarth ehangach.”

“Byddai’r gwasanaethau arfaethedig hyn yn darparu gwell cysylltiadau uniongyrchol â’r brifddinas, yn cefnogi busnesau lleol, yn cryfhau twf economaidd ac yn creu swyddi newydd.”

“Rydw i’n gofyn i Lywodraeth Cymru gefnogi Rheilffordd Wrecsam, Swydd Amwythig a Chanolbarth Lloegr a chymeradwyo’r cynigion hyn wrth i’r cais fynd rhagddo. Mae hwn yn gyfle gwirioneddol i wella cysylltiadau trafnidiaeth ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru, ac rydw i’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ei chefnogaeth lawn iddi.”

Mae disgwyl i’r Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd wneud penderfyniad ar y cais ym mis Medi.

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwaith ffordd arfaethedig yn ardal Owrtyn a Bangor Is-Coed Gwaith ffordd arfaethedig yn ardal Owrtyn a Bangor Is-Coed
Erthygl nesaf Food caddy in kitchen - keep caddy fresh in warm weather Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres mewn tywydd cynnes

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English