Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres mewn tywydd cynnes
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres mewn tywydd cynnes
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i gadw’ch cadi bwyd yn ffres mewn tywydd cynnes

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 10, 2026 4:02 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Food caddy in kitchen - keep caddy fresh in warm weather
RHANNU

Mae cymaint o resymau da dros ailgylchu gwastraff bwyd, ac yn ystod misoedd cynnes yr haf, mae ‘na ffactor ychwanegol i’ch ysgogi i wneud hynny.

Cynnwys
  • Awgrymiadau i gadw eich cadi bwyd yn ffres
  • “Mae angen i bawb chwarae eu rhan”
  • Byddwch yn barod i chwarae eich rhan
  • Archebu cadi Newydd
  • Rydym ni’n cynnig bagiau cadi bwyd am ddim

Cofiwch, mae cynnwys ein biniau gwastraff bwyd yn cael eu casglu bob wythnos, nid yw’r un peth yn wir ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.  Ydych chi wir eisiau i’ch gwastraff bwyd fod yn eich bin am ychydig wythnosau yn gwneud i bopeth ddrewi?

Os na fyddwch chi’n ailgylchu’ch gwastraff bwyd bydd eich biniau eraill dechrau drewi, a gwaethygu y bydd y broblem (a’r arogl) wrth i’r haf fynd yn ei flaen.

Mae pobl yn dueddol o feddwl nad yw ailgylchu gwastraff bwyd yn lanwaith, ond mewn gwirionedd, mae ailgylchu eich gwastraff bwyd yn creu llai o arogleuon, ac mae’n llawer mwy glanwaith na rhoi popeth yn y bin yn ddiofal.

Mae’n llawer llai drewllyd i ailgylchu gwastraff bwyd er mwyn i ni ei gasglu gennych chi’n wythnosol.

Wedi dweud hynny, fe wyddom ni fod biniau bwyd angen ychydig mwy o sylw dros yr haf, felly dyma argymhellion i gadw eich cadi bwyd yn lân.

Awgrymiadau i gadw eich cadi bwyd yn ffres

  • Gwagiwch y bag yn fwy aml mewn tywydd cynnes. Yn syml, os ydi hi’n boeth bydd cynnwys eich cadi bwyd yn dechrau arogli yn gynt nag yn ystod y misoedd oerach. Ceisiwch ei wagio’n fwy rheolaidd pan mae hi’n gynnes. Cofiwch, caiff y cynwysyddion eu gwagio’n wythnosol.
  • Glanhewch/diheintiwch y cadi yn rheolaidd. Fel unrhyw fin sydd gennych, bydd eich cadi angen ychydig o ofal hefyd. Ceisiwch ei lanhau’n rheolaidd, yn arbennig pan mae’n gynnes.
  • Gwasgarwch ychydig o ficarbonad soda yng ngwaelod y bin. Mae bicarbonad soda yn ffordd dda o niwtraleiddio arogl yn gyflym, felly os oes gennych ychydig yn y cwpwrdd yna efallai byddwch angen rhoi ychydig yng ngwaelod eich bin.
  • Glanhewch unrhyw beth sydd wedi diferu ar unwaith. Weithiau mae diferion yn digwydd, ond mae gwneud yn siŵr eich bod yn eu glanhau yn gyflym yn helpu i atal unrhyw aroglau.
  • Cadwch gadi bwyd y gegin allan o olau uniongyrchol yr haul. Bydd lleoli eich cadi bwyd mewn lle oer, allan o olau uniongyrchol yr haul yn help mawr.
  • Cadwch y caead ar gau. Bydd cau’r caead yn cadw pryfaid i ffwrdd ac yn stopio’r arogl rhag mynd o amgylch yr ystafell, felly os nad ydych yn gwneud yn barod, ceisiwch ddechrau cau’r caead.
  • Peidiwch â gorlenwi eich bag bin bwyd. Problem gyffredin yw bod bagiau bin bwyd yn rhwygo, ac un o’r ffyrdd gorau o atal hyn rhag digwydd yw sicrhau nad ydych yn eu gorlenwi nhw.
  • Ewch â’ch cadi cegin y tu allan pan fyddwch yn trosglwyddo gwastraff. Awgrym defnyddiol arall yw cario eich gwastraff bwyd allan i’ch cadi cegin pan fyddwch chi’n barod i’w drosglwyddo i’r cadi ymyl ffordd. Mae hyn yn ei atal rhag rhwygo ac unrhyw hylif rhag colli.

“Mae angen i bawb chwarae eu rhan”

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd: “Mae ailgylchu gwastraff bwyd yn rhywbeth y mae angen i ni ei wella yn Wrecsam. Rydyn ni’n gwerthfawrogi pawb sy’n ailgylchu gwastraff bwyd gyda ni, ond mae angen i bawb chwarae eu rhan. Yn anffodus, mae ‘na nifer o drigolion o hyd sy’n dewis peidio ag ailgylchu eu gwastraff bwyd o gwbl, sy’n hynod siomedig.”

Byddwch yn barod i chwarae eich rhan

Gobeithio eich bod chi rŵan yn barod i ailgylchu eich gwastraff bwyd. Angen cadi neu fagiau? Dim problem, fe allech chi gael y ddau am ddim.

Archebu cadi Newydd

Rydym ni’n cynnig cadi cegin a biniau ymyl ffordd newydd, felly peidiwch â phoeni – y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw archebu un newydd.

Gallwch wneud cais am gadi bwyd newydd yn hawdd ar ein gwefan, lle gallwch chi hefyd archebu bocsys ailgylchu newydd hefyd os ydych chi eu hangen.  Byddwn yn danfon eich cadi newydd atoch cyn gynted ag y gallwn, ond weithiau rydym ni’n cael nifer fawr iawn o’r ceisiadau yma allai olygu bod yn rhaid i chi aros am eich un chi. Os nad ydi’ch cadi’n cyrraedd yn gyflym, ceisiwch fod yn amyneddgar wrth i ni weithio ein ffordd drwy’r rhestr o archebion.

Rydym ni’n cynnig bagiau cadi bwyd am ddim

I gael bagiau newydd ar gyfer eich cadi bwyd, gallwch glymu bag bin bwyd gwag i handlen eich bin bwyd ar ddiwrnod eich casgliad nesaf a bydd y criw ailgylchu yn gadael rholyn newydd i chi.

Gwyliwch ein fideo i weld pa mor hawdd yw hyn.

Neu, os yw’n well gennych chi, gallwch gasglu’r bagiau bin bwyd am ddim (yn ogystal â sachau glas newydd) o amryw leoliadau yn Wrecsam, gan gynnwys nifer o siopau cyfleustra, swyddfeydd ystadau, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu.

Rydyn ni wedi eu hailgyflenwi yn ddiweddar, felly chwiliwch am eich lleoliad agosaf.

Dysgwch fwy am yr hyn y gellir ei ailgylchu ar ein gwefan.

2 ffordd hawdd o gael gafael ar ein leinin cadi bwyd am ddim – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:ailgylchubinsgwastraffgwastraff bwydrecyclingwaste
Rhannu
Erthygl flaenorol Annog Llywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol o Wrecsam i Lundain Annog Llywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau rheilffordd uniongyrchol o Wrecsam i Lundain
Erthygl nesaf barbecue cooking in warm weather Ydych chi’n cael barbeciw yn yr haul? Cofiwch ailgylchu bob amser

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Medi 2, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English