Nid yw’r tymor hyd yn oed wedi dechrau ac mae yna newyddion gwych i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam.
Pan fydd tymor 2026/27 yn dechrau ar 22 Awst, bydd cyfleuster parcio a theithio Wrecsam hefyd yn ailagor ei gatiau gan ddarparu gwasanaeth hawdd, diogel, rhad a chyfleus.
Yn union fel y llynedd, bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnig ar gyfer pob gêm gartref – cwpan a chynghrair – ac mae’n costio £1 yn unig am siwrne o faes parcio Ffordd Rhuthun i faes y Cae Ras ac yn ôl eto ar ddiwedd y gêm.
Mae’r bysus yn rhedeg bob 20 munud o 2 awr cyn y gic gyntaf ac eto bob 20 munud am bum taith ar ôl y gêm. Bydd amseroedd yn cael eu cyhoeddi cyn pob gêm gartref.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, dirprwy arweinydd y cyngor ac aelod arweiniol dros yr amgylchedd: “Rydw i mor falch bod cyfleuster parcio a theithio Ffordd Rhuthun yn dychwelyd am dymor arall. Rydym wedi gweithio gydag Arriva Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i wneud yn siŵr bod hwn yn wasanaeth fforddiadwy a dibynadwy ac, os na wnaethoch ei ddefnyddio y tymor diwethaf, byddwn yn argymell rhoi cynnig arni.
“Mae parcio ar ddiwrnod gêm bob amser yn heriol felly byddai’n wych gweld cefnogwyr yn parcio ar Ffordd Rhuthun – cofiwch ei fod am ddim i barcio a bod parcio a theithio ond yn costio £1 i fynd a dod.”
Trwy gynnig opsiwn parcio arall, nod y gwasanaeth hwn hefyd yw atal y parcio anghyfreithlon, peryglus a diystyriol sydd, yn anffodus, yn digwydd o gwmpas pob gêm. Mae parcio ar Ffordd Rhuthun, neu un o feysydd parcio canol y ddinas yn well i gefnogwyr sy’n mynd i’r gêm (dim dirwyon!) a thrigolion sy’n byw o fewn pellter cerdded i’r Cae Ras.
Os nad ydych chi eisiau gyrru i’r gemau…
Os nad ydych chi eisiau gyrru i’r gemau, beth am ddal y bws a thalu llai wrth ddangos eich tocyn gêm i’r gyrrwr?
Prynwch Docyn Parth Wrecsam (gallwch weld y llwybrau yma) a thalu £3 ar gyfer Oedolyn / £2 ar gyfer Plentyn – gan arbed hyd at £2.60.
Ar ôl y gêm fydd dim brys i deithio adref gan fod tocynnau dydd yn ddilys tan 11.59pm ar y diwrnod, felly gallwch aros yng nghanol y ddinas i ddathlu buddugoliaeth arall!





