Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen 243 o bwyntiau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus wedi’u gosod ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Datgarboneiddio Wrecsam > 243 o bwyntiau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus wedi’u gosod ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

243 o bwyntiau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus wedi’u gosod ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 22, 2026 2:52 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
243 o bwyntiau gwefru cerbydau trydan cyhoeddus wedi'u gosod ledled Bwrdeistref Sirol Wrecsam
RHANNU

Mae buddsoddiad parhaus wedi’i gynllunio yn 2026, gyda seilwaith gwefru newydd yn cael ei ddarparu mewn cymunedau mwy gwledig.

Mae parhau i ehangu rhwydwaith gwefru cerbydau trydan cyhoeddus Wrecsam yn gam pwysig tuag at leihau allyriadau carbon o drafnidiaeth, sy’n parhau i fod yn un o’r ffynonellau mwyaf o allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru.

Trwy ddarparu cyfleusterau gwefru cyfleus a dibynadwy ar draws cymunedau trefol a gwledig, mae Cyngor Wrecsam yn helpu i gael gwared ar rwystrau i berchnogaeth cerbydau trydan ac yn cefnogi trigolion, busnesau ac ymwelwyr i newid i drafnidiaeth lanach.

Mae’r buddsoddiad yn cyfrannu’n uniongyrchol at amcanion datgarboneiddio Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam drwy annog pobl i ddefnyddio cerbydau allyriadau isel a helpu i leihau dibyniaeth ar danwydd ffosil. Mae hefyd yn cefnogi ansawdd aer lleol gwell ac yn cyfrannu at amgylchedd iachach i drigolion a chenedlaethau’r dyfodol.

Mae’r rhaglen yn cyd-fynd ag uchelgeisiau Llywodraeth Cymru i gyflawni sector cyhoeddus sero net erbyn 2030 ac i ddatblygu rhwydwaith gwefru cerbydau trydan cynhwysfawr a hygyrch ledled Cymru.

Mae sicrhau bod seilwaith gwefru ar gael yng nghanol trefi ac mewn ardaloedd preswyl, cyrchfannau ymwelwyr a chymunedau gwledig yn helpu i gefnogi trawsnewidiad teg i drafnidiaeth carbon isel, gan sicrhau bod mwy o bobl yn gallu elwa o gerbydau trydan waeth ble maen nhw’n byw.

Wrth edrych ymlaen, bydd y Cyngor yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ehangu’r seilwaith gwefru, gwella hygyrchedd i drigolion heb le i barcio oddi ar y stryd, a chefnogi’r newid i deithio glanach a gwyrddach ledled y fwrdeistref sirol.

Mae ehangu yn cefnogi trigolion, ymwelwyr a busnesau wrth helpu i leihau allyriadau sy’n deillio o drafnidiaeth.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a’r Hinsawdd, “Mae ehangu rhwydwaith gwefru cyhoeddus Wrecsam yn rhan bwysig o wneud trafnidiaeth lanach yn fwy hygyrch i bawb.”

“Trwy fuddsoddi mewn pwyntiau gwefru dibynadwy ar draws cymunedau trefol a gwledig, rydym yn cefnogi trigolion, ymwelwyr a busnesau wrth helpu i leihau allyriadau a gwella ansawdd aer lleol.”

Gall trigolion cymwys elwa o ostyngiad o 20% oddi ar gostau gwefru, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Costelloes.

Mae gwefrwyr yn amrywio o rai 7.4kW i wefrwyr chwim iawn 240kW. Gellir dod o hyd i’r rhain ar wefan Zapmap.

Mae dros 60 o leoliadau gwefru ar draws y fwrdeistref sirol lle mae seilwaith gwefru ar gael nawr, gan gynnwys:

  • Canol dinas Wrecsam
  • Y Waun
  • Owrtyn
  • Holt
  • Yr Orsedd
  • Rhiwabon
  • Rhosllannerchrugog
  • Coed-poeth
  • Brymbo
  • Gwersyllt
  • Johnstown
  • Acre-fair
  • Cefn Mawr
  • Pen-y-cae
  • Glynceiriog
  • Trefor
  • Llai
  • Pentre Brychdyn

Fel arall, mae gwefru cyhoeddus ar gael yn:

  • Canol trefi
  • Ardaloedd preswyl
  • Cyrchfannau ymwelwyr
  • Gorsafoedd trafnidiaeth
  • Parciau gwledig
  • Ystadau diwydiannol
  • Canolfannau hamdden

Rydym yn gweithio i allu cefnogi preswylwyr nad oes ganddynt dramwyfa i symud at ddefnyddio gwefrwyr cerbydau trydan drwy sianel yn y palmant.

Os oes gennych ddiddordeb yn seilwaith eich ardal leol, neu os hoffech drafod gyli palmant, anfonwch e-bost at decarbonisation@wrexham.gov.uk.

Rhannu
Erthygl flaenorol Bwydydd gan gynnwys pîn-afal, tomato a phupur ar wyneb gwaith mewn gweithdy bwyd Gwahodd sefydliadau lleol i gynnal gweithdai bwyta’n iach
Erthygl nesaf The Wrexham Sheep Trail Llwybr Defaid Wrecsam Newydd i blesio teuluoedd yr haf hwn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws

Medi 21, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
Tapio i mewn, tapio allan – Teithio’n haws ar y trên yn Wrecsam a'r cyffiniau
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Tapio i mewn, tapio allan – Teithio’n haws ar y trên yn Wrecsam a’r cyffiniau

Medi 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English