Mae Maer Wrecsam wedi bod yn brysur iawn drwy gydol mis Gorffennaf. Mae wedi mynychu dros 25 o ddigwyddiadau yn y ddinas a’r cyffiniau.
Mae wedi mwynhau ymweld â’r holl grwpiau a sefydliadau gwych sy’n gwneud gwaith rhyfeddol yn ein cymuned. Mae llawer mwy i ddod!
Gadewch i ni edrych ar rai o’i ymrwymiadau y mis hwn…
Ymweliad ag Ysgol Sant Paul, Is-y-coed, i ddysgu sgiliau cymorth cyntaf hanfodol i’r disgyblion…

Ymweliad rhaglen ‘We Grow’ We Mind the Gap â Neuadd y Dref…

Agoriad Stori Brymbo…

Derbyn ei gopi o fwrdd newydd Monopoly Wrecsam er budd Hosbis Tŷ’r Eos…

Mynychu diwrnod chwaraeon yn Ysgol St Chad yn Hanmer…

Ymweld â Homegrown ym Mhlas Madoc i gyflwyno tystysgrifau…






