Mae ymwelwyr yn cael eu hatgoffa i beidio â chynnau tanau mewn parciau gwledig yn dilyn sawl digwyddiad diweddar sydd wedi difrodi coed ac wedi peryglu bywyd gwyllt a’r amgylchedd cyfagos.
Darganfuwyd olion tân bach ym Mharc Gwledig Bonc yr Hafod i ddechrau, lle mae’n ymddangos bod nifer o lyfrau a deunyddiau eraill wedi’u llosgi.
Ers hynny mae tystiolaeth o ddau dân arall wedi’i ddarganfod ym Mharc Bryncunallt. Mae canghennau hefyd wedi cael eu torri o goed i’w defnyddio fel coed tân, tra bod fflamau wedi llosgi a difrodi coed cyfagos.


Er bod y tanau wedi’u diffodd, gall hyd yn oed tân bach ledaenu’n gyflym, yn enwedig yn ystod amodau cynnes neu sych. Gall tanau ddinistrio cynefinoedd pwysig, anafu bywyd gwyllt, peryglu ymwelwyr ac achosi difrod parhaol i’r amgylchedd naturiol.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, “Mae ein parciau gwledig yno i bawb eu mwynhau, ac mae’n hynod siomedig gweld tystiolaeth o danau yn cael eu cynnau a choed yn cael eu difrodi.
Mae torri canghennau o goed a chynnau tanau yn achosi niwed uniongyrchol i’r mannau naturiol pwysig hyn. Gall yr hyn a allai ymddangos fel tân bach neu dan reolaeth hefyd ledaenu’n gyflym iawn, gan roi bywyd gwyllt, ymwelwyr a’r ardal ehangach mewn perygl difrifol.
Byddem yn annog pawb sy’n ymweld â’n parciau gwledig i ymddwyn yn gyfrifol, gadael llonydd i goed a llystyfiant arall, mynd â’u sbwriel adref a pheidio byth â chynnau tân na llosgi deunyddiau.”
Atgoffir ymwelwyr i beidio â chynnau tanau na barbeciw tafladwy mewn parciau gwledig. Dylid diffodd sigaréts yn llawn a’u gwaredu’n ddiogel.
Dywedodd Jody McEachearn, Pennaeth Atal Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Gall yr hyn a allai ymddangos fel tân bach, dan reolaeth ddod yn rhywbeth llawer mwy difrifol, yn enwedig yn ystod cyfnodau o dywydd sych pan fo’r risg o danau gwyllt yn uchel. Mae digwyddiadau diweddar ledled Gogledd Cymru yn dangos pa mor hawdd y gall tanau ddechrau a pha mor gyflym y gallant ledaenu, gan beryglu ymwelwyr, cymunedau cyfagos, bywyd gwyllt a’r amgylchedd naturiol.
Byddem yn gofyn i bawb sy’n mwynhau ein parciau gwledig a chefn gwlad wneud hynny’n gyfrifol. Peidiwch â chynnau tân gwersyll, pyllau tân na barbeciw tafladwy, a sicrhau bod sigaréts yn cael eu diffodd a’u gwaredu’n ddiogel. Dylid mynd â sbwriel adref bob amser, gan y gall eitemau fel poteli gwydr a chaniau gyfrannu at danau a chreu peryglon ychwanegol.
Mae gan bob tân gwyllt y potensial i achosi difrod sylweddol a dargyfeirio adnoddau brys. Trwy gymryd ychydig o ragofalon syml, gallwn ni i gyd chwarae ein rhan i ddiogelu ein cefn gwlad a helpu i gadw Gogledd Cymru yn ddiogel.”
Dylai unrhyw un sy’n darganfod tân symud i leoliad diogel a ffonio 999. Gellir rhoi gwybod i’r heddlu hefyd am dân amheus neu fwriadol.





