Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyngor Wrecsam yn cefnogi nodyn atgoffa Cadwch Gymru’n Daclus – Creu Straeon Nid Sbwriel yr haf hwn! 
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cyngor Wrecsam yn cefnogi nodyn atgoffa Cadwch Gymru’n Daclus – Creu Straeon Nid Sbwriel yr haf hwn! 
Y cyngor

Cyngor Wrecsam yn cefnogi nodyn atgoffa Cadwch Gymru’n Daclus – Creu Straeon Nid Sbwriel yr haf hwn! 

Diweddarwyd diwethaf: August 4, 2026 3:09 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Cyngor Wrecsam yn cefnogi nodyn atgoffa Cadwch Gymru’n Daclus – Creu Straeon Nid Sbwriel yr haf hwn! 
RHANNU

Erthygl Gwadd – Cadwch Gymru’n Daclus

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn ôl gyda’r ymgyrch sbwriel dros yr haf sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, ‘Creu Straeon, Nid Sbwriel’ wrth i ddata newydd ddatgelu bod swm brawychus o sbwriel yn cael ei adael ar ôl ar draethau ac mewn parciau. 

Canfu arolygon a gynhaliwyd gan Cadwch Gymru’n Daclus, o’r ardaloedd a arolygwyd, bod gan 79.4% ohonynt feslysion a’u deunydd lapio, gyda sbwriel diodydd yn ail agos ar 72.6%.

Gyda’r haf ar ei anterth a mwy o bobl allan yn mwynhau dros yr wythnosau nesaf, gofynnir i’r cyhoedd ymddwyn yn gyfrifol a mynd â’u sbwriel gartref gyda nhw. 

Yn Wrecsam, mae clirio ardaloedd fel traethau a pharciau yn costio tua £1.5m bob haf.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, “Mae gan Wrecsam lawer o barciau a mannau gwyrdd gwych i bobl eu mwynhau, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf.

Gofynnwn i bawb chwarae eu rhan trwy fynd â’u sbwriel adref a’i waredu’n gyfrifol, gan helpu i gadw’r lleoedd hyn yn lân, yn ddiogel ac yn groesawgar i eraill.”

Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:

“Mae’r ffigurau hyn unwaith eto yn siomedig iawn. Mae Cymru wedi cael ei bendithio gan rai o’r traethau, parciau a mannau gwyrdd mwyaf hardd yn y byd i gyd, ac mae gennym i gyd gyfrifoldeb i ofalu amdanynt.”

Aeth ymlaen i ddweud.

“Wrth i fwy o bobl fynd allan i’r awyr agored i fwynhau y tywydd cynnes, mae’n hanfodol ein bod yn gadael y mannau hyn fel y cawsom nhw. Mae modd osgoi taflu sbwriel yn llwyr. Os yw bin yn llawn, ewch â’ch sbwriel gartref a’i waredu’n gyfrifol. Mae’n weithred syml, ond yn un sy’n gwneud gwahaniaeth mawr.”

 I ddarganfod mwy am ymgyrch sbwriel yr haf Cadwch Gymru’n Daclus, ewch I wefan cadwch gymru’n daclus.

Rhannu
Erthygl flaenorol Mayor delivering first aid training to the pupils of St Paul's school Maer yn addo hyfforddi 1000 o gynorthwywyr cyntaf yn ystod ei dymor yn y swydd
Erthygl nesaf Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor of Wrexham's Engagements - October - Part 2
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref (Rhan 2)
Pobl a lle Arall
November 13, 2026
Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!
Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!
Digwyddiadau Pobl a lle
November 12, 2026
van
Angen Crefftwyr Medrus – Ymunwch â Thîm Atgyweirio Tai Wrecsam!
Arall
November 12, 2026
Foster carers Del and Gary from Wrexham
Gofalwyr maeth Wrecsam yn cael eu cydnabod â gwobr genedlaethol am eu hymrwymiad diwyro i blant a phobl ifanc mewn gofal
Y cyngor Pobl a lle
November 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

telecare scam
Y cyngorPobl a lle

Mae negeseuon atgoffa’r Dreth Gyngor yn Wrecsam yn newid

November 12, 2026
Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!
Y cyngorDigwyddiadau

Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!

November 10, 2026
Wedi gweld rhywbeth sy’n ymddangos o’i le? Gallai eich llais wneud gwahaniaeth
Y cyngor

Wedi gweld rhywbeth sy’n ymddangos o’i le? Gallai eich llais wneud gwahaniaeth

November 10, 2026
Library
Y cyngorPobl a lle

Llyfrgelloedd Cymru yn barod i helpu benthycwyr i fwynhau dyddiau mwy disglair y gaeaf hwn

November 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English