Coleg Cambria – mae myfyrwyr yn dathlu canlyniadau Safon Uwch a BTEC eithriadol
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg ac Ymyrraeth Gynnar: “Hoffwn longyfarch yr holl fyfyrwyr ledled Wrecsam sy’n derbyn eu canlyniadau Safon Uwch heddiw. Mae’r canlyniadau sy’n cael eu cyflawni yn adlewyrchu’r gwaith caled, yr ymrwymiad a’r gwytnwch a ddangoswyd gan ein pobl ifanc trwy gydol eu hastudiaethau.
“Dylai pawb a fu’n cymryd rhan fod yn hynod falch o’u cyflawniadau. I lawer o fyfyrwyr, mae heddiw yn nodi dechrau llwyddiannus y bennod nesaf yn eu bywydau, boed hynny’n symud ymlaen i brifysgol, addysg uwch, prentisiaethau, hyfforddiant galwedigaethol, neu gyflogaeth. Rwy’n dymuno pob llwyddiant i bawb wrth iddynt gymryd eu camau nesaf ar drywydd eu huchelgeisiau.
“Rwyf hefyd am gydnabod y gall diwrnod canlyniadau ddod ag emosiynau cymysg. I rai myfyrwyr, efallai nad yw’r graddau a dderbyniwyd yr hyn yr oeddent yn gobeithio amdano neu efallai yn eu gadael yn ansicr am eu cynlluniau arfaethedig. Os yw hyn yn wir, byddwn yn eu hannog yn gryf i siarad â’u hathrawon, cynghorwyr gyrfaoedd ac aelodau o’u teulu cyn gwneud unrhyw benderfyniadau.
“Mae llawer o gyngor a chefnogaeth ar gael, ac yn aml mae mwy o opsiynau a chyfleoedd nag sydd i’w gweld ar yr olwg gyntaf. Beth bynnag yw eich canlyniadau heddiw, nid ydynt yn diffinio eich gwerth na’ch potensial. Mae yna lawer o lwybrau i lwyddiant, a chyda’r arweiniad a’r penderfyniad cywir, mae yna bob amser gyfleoedd i gyflawni eich nodau.
“Ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, hoffwn ddymuno’n dda i’n holl fyfyrwyr ar gyfer y dyfodol ac i ddiolch i’n hysgolion, ein colegau a’n teuluoedd am y rôl bwysig y maent yn parhau i’w chwarae wrth gefnogi ein pobl ifanc i gyflawni eu dyheadau.”




