Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Diweddarwyd diwethaf: Medi 1, 2026 10:42 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Blue emergency services light
RHANNU

Ar ddydd Mercher 9 Medi, byddwn yn codi’r faner 999 yn Neuadd y Dref wrth i ni nodi Diwrnod y Gwasanaethau Brys blynyddol.

Mae Diwrnod 999 yn hyrwyddo gwaith ymroddedig a hanfodol ein gwasanaethau brys.  Mae’n gyfle i hyrwyddo’r defnydd cyfrifol o’r gwasanaethau hyn ac i ddysgu sgiliau achub bywyd sylfaenol i’r cyhoedd.

Mae’r diwrnod yn gyfle gwych i bobl ddysgu mwy am gyfleoedd gyrfa a gwirfoddoli y gallant eu dilyn yn y gwahanol sectorau. Mae rolau gwirfoddol yn chwarae rhan greiddiol wrth gadw Prydain yn ddiogel, ac maent yn rhan hanfodol o’r gwasanaethau brys.

Mae Ymatebwyr Cyntaf Cymunedol y GIG, Ambiwlans Sant Ioan, RNLI, timau Chwilio ac Achub a Gwylwyr y Glannau, Diffoddwyr Tân a Chwnstabliaid Arbennig i gyd yn rolau gwirfoddoli sy’n gwneud gwahaniaeth enfawr.

Rydym yn cymryd eiliad bob blwyddyn i fyfyrio a diolch i arwyr 999 ddoe a heddiw sy’n parhau i wasanaethu cymunedau yma yn Wrecsam ac ar draws y DU.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mark Pritchard, “Hoffwn ddiolch yn ddiffuant ar fy rhan fy hun a phawb yn Wrecsam i’r unigolion hynod ddewr hynny sy’n gwasanaethu, neu sydd wedi gwasanaethu, gyda chymaint o ymroddiad ac angerdd yn y gwasanaethau brys.

“Yma, yn Wrecsam, ac ar draws y wlad, rydych chi’n sicrhau ein diogelwch bob dydd ac, am hynny, rydym yn ddyledus i chi i gyd.”

Ychwanegodd y Prif Weithredwr, Alwyn Jones, “Mae’n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn cymryd eiliad ar 9 Medi i fyfyrio ac ystyried pa mor bwysig yw’r gwasanaethau brys.   Rydym yn dibynnu ar y bobl hyn gymaint ar adegau o angen, ac mae Diwrnod 999 yn ffordd berffaith o ddangos i’r gweithwyr hynny faint rydym yn eu hedmygu, eu parchu a’u gwerthfawrogi.

“Nid ydych byth yn gwybod pryd y gallai sefyllfa 999 godi, ond rydym yn ffodus bod yr arwyr yn barod, ac yn aros i’n helpu pe bai hynny’n codi, ac rwy’n diolch i chi i gyd am eich gwaith hanfodol.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Pobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English