Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
ArallPobl a lle

Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr

Diweddarwyd diwethaf: Medi 1, 2026 3:27 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Yorke Street
RHANNU

Gyda’r tymor pêl-droed ar y gweill a rhai penwythnosau prysur o’n blaenau, mae gyrwyr yn cael eu hannog i gwblhau teithiau didrafferth i ganol dinas Wrecsam trwy barcio’n gyfrifol a bod yn ymwybodol o gyfyngiadau traffig.

Cafodd trefniadau traffig newydd eu cyflwyno o amgylch ardal Stryt Yorke, Stryt Fawr ac Allt y Dref bron i 18 mis yn ôl.

Gall cerbydau awdurdodedig gael mynediad i’r ardal trwy’r bolardiau sy’n codi ar waelod Stryt Yorke, cyn dilyn system unffordd ar hyd Stryt Fawr, Stryt Caer neu Stryt Siarl.

Er bod y rhan fwyaf o yrwyr wedi dod i arfer â’r cynllun newydd, mae rhai yn dal i’w gael yn anghywir o bryd i’w gilydd – a all roi cerddwyr a defnyddwyr eraill y ffordd mewn perygl (ac arwain at erlyniad).

Mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys modurwyr yn ceisio gyrru trwy arwyddion ‘dim mynediad’ neu yrru’r ffordd anghywir i lawr strydoedd unffordd.

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, Aelod Arweiniol y Cyngor dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth: “Rydyn ni am i bawb fwynhau Wrecsam a manteisio i’r eithaf ar eu hamser yng nghanol y ddinas.

“Os ydych chi’n teithio yno mewn car, helpwch i wneud yn siŵr eich bod chi’n cael profiad didrafferth trwy barcio’n gyfrifol a bod yn ymwybodol o drefniadau traffig.

“Ystyriwch barcio yn un o’r nifer o feysydd parcio a weithredir gan y Cyngor neu a weithredir yn breifat, a gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dilyn y rheolau ‘dim mynediad’ a thraffig unffordd o amgylch ardal y Stryt Fawr.

“Mae Wrecsam ar gynnydd ac mae canol y ddinas yn wych, felly parciwch yn gyfrifol, gyrrwch yn gyfrifol a mwynhewch ein dinas hyfryd.”

Dywedodd Sarjant Dinas Wrecsam, Nathan Harvey: “Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cymryd adroddiadau o droseddau traffig o ddifrif a bydd yn cymryd camau cadarnhaol lle mae troseddau yn cael eu harsylwi gan swyddogion neu eu hadrodd gan aelodau o’r cyhoedd.

“Bydd unrhyw dystiolaeth o yrru peryglus, diofal, neu wrthgymdeithasol yn cael ei hadolygu a, lle bo hynny’n briodol, yn destun erlyniad.

“Mae nifer o fodurwyr eisoes wedi’u hadnabod ac wedi’u delio â nhw yn dilyn gweithgaredd gorfodi yng nghanol dinas Wrecsam.

“Mewn rhai achosion, siaradodd swyddogion yn uniongyrchol â gyrwyr ar adeg y drosedd, tra bod eraill wedi derbyn hysbysiadau diweddarach a gohebiaeth ddilynol drwy’r post.

“Yn ogystal â phatrolau gwelededd uchel, mae Heddlu Gogledd Cymru yn cael ei gefnogi gan rwydwaith teledu cylch cyfyng helaeth ledled canol dinas Wrecsam. Mae’r dechnoleg hon yn galluogi swyddogion i adolygu digwyddiadau, adnabod cerbydau a gyrwyr sy’n troseddu, a chymryd camau gorfodi hyd yn oed pan nad yw swyddogion yn bresennol ar yr adeg y mae trosedd yn digwydd.

“Rydyn ni’n cydnabod y gall y math hwn o ymddygiad gael effaith sylweddol ar ddiogelwch y cyhoedd a hyder y cyhoedd. Mae cyflymder gormodol, symudiadau peryglus, sŵn diangen a mathau eraill o yrru gwrthgymdeithasol yn rhoi cerddwyr, beicwyr, a defnyddwyr eraill y ffordd mewn perygl, yn enwedig mewn ardaloedd prysur yng nghanol y ddinas.

“Byddwn ni’n parhau i weithio gyda phartneriaid, defnyddio’r holl dystiolaeth sydd ar gael a chymryd camau cadarn yn erbyn y rhai sy’n dewis anwybyddu’r gyfraith. Ni fydd ymddygiad sy’n peryglu diogelwch ein cymunedau yn cael ei oddef, ac rydyn ni’n annog unrhyw un sy’n dyst i droseddu i roi gwybod am hynny fel y gellir cymryd camau priodol.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Blue emergency services light Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Erthygl nesaf Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM. Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026
Horse Riders
Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion
Arall Pobl a lle
Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 21, 2026
Gwersyllt
Dan sylw: Rôl cynghorydd
Y cyngor
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Tennis o'r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref
DigwyddiadauPobl a lle

Tennis o’r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref

Medi 18, 2026
North Wales Police
Arall

Cefnogi Ymgyrch Spotlight sy’n canolbwyntio ar yrwyr ifanc

Medi 18, 2026
Tapio i mewn, tapio allan – Teithio’n haws ar y trên yn Wrecsam a'r cyffiniau
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Tapio i mewn, tapio allan – Teithio’n haws ar y trên yn Wrecsam a’r cyffiniau

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English