Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle

Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Diweddarwyd diwethaf: Medi 1, 2026 10:11 am
Rhannu
Darllen 6 funud
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
RHANNU

Mae’r prosiect, a hwyluswyd gan Gyngor Wrecsam a grant trwy Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, wedi cefnogi un o gaffis hynaf a mwyaf poblogaidd Wrecsam i gwblhau gwaith adnewyddu mawr, gan helpu i ddiogelu darn pwysig o dreftadaeth y ddinas wrth gefnogi twf yn y dyfodol.

Marrubi’s, ar Stryt y Banc, yw’r caffi hynaf yn Wrecsam, gyda’r busnes wedi’i sefydlu gyntaf ym 1896. Wedi’i leoli’n wreiddiol ar Stryt Yorke, symudodd yn ddiweddarach i Stryt yr Abad ym 1910, cyn symud i Stryt y Banc ym 1918, lle mae wedi parhau i fod yn rhan bwysig o ganol y ddinas byth ers hynny.

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw Trawsnewid Trefi sy’n darparu miliynau o bunnoedd i adfywio canol trefi yng Nghymru. Mae canol trefi a dinasoedd yn rhan hanfodol a phersonol o dreftadaeth a chymunedau Cymru, a nod y rhaglen Trawsnewid Trefi yw gwasanaethu a chysylltu’r bobl sy’n byw, yn gweithio, yn dysgu ac yn treulio amser hamdden ynddynt.

 Mae Caffi Marubbi’s bellach wedi cwblhau rhaglen o waith adnewyddu allanol a mewnol sydd wedi’i dylunio i gadw cymeriad traddodiadol yr adeilad wrth fynd i’r afael ag anghenion cynnal a chadw hanfodol.

Mae’r caffi wedi cael ei redeg gan yr un teulu ers cenedlaethau, gyda’r perchennog presennol Hari Gould yn cynrychioli’r bumed genhedlaeth i gydio yn awenau’r busnes yn 2022.

Roedd y gwaith yn cynnwys atgyweiriadau ac ailosod gwteri haearn bwrw yn rhannol, ailbaentio a selio gwaith brics allanol, ailosod ffenestri ar y llawr uchaf, gosod drysau pren ac arwyddion newydd ynghyd ag adlen draddodiadol newydd, gwneud atgyweiriadau i’r to a gwelliannau i’r to gwastad dros y cownter, y storfa a’r gegin, a chreu cyfleusterau lles staff newydd.

Mae’r prosiect wedi gwneud gwahaniaeth gweladwy i olwg yr adeilad, wrth helpu i ddiogelu busnes teuluol hirsefydlog sy’n rhan o hanes canol dinas Wrecsam.

Mae hefyd wedi cefnogi’r economi leol, gyda chontractwyr lleol yn sicrhau contractau fel rhan o’r gwaith, a mwy na £30,000 wedi’i wario’n lleol.

Mae’r gwelliannau wedi helpu i wella profiad cwsmeriaid, cynyddu nifer yr ymwelwyr a chefnogi cynlluniau tymor hwy y caffi, gan gynnwys agor siop gludfwyd a chynlluniau ar gyfer bar i fyny’r grisiau a gofod digwyddiadau.

Mae cwsmeriaid eisoes wedi ymateb yn gadarnhaol i’r gwelliannau, yn enwedig yr ardal awyr agored wedi’i hadnewyddu, yr arwyddion newydd a gwell golwg yr adeilad.

Dywedodd Hari Gould, perchennog Caffi Marubbi, “Y llynedd, cefais fy synnu ar ôl darganfod am y Rhaglen Trawsnewid Trefi sy’n cael ei rheoli gan Gyngor Wrecsam ar ran Llywodraeth Cymru. Allwn i ddim credu fy mod yn gymwys i dderbyn grantiau tuag at waith a allai wella fy musnes.”

“Fe wnes i gydio yn awenau Marubbi’s yn 2022 ac roeddwn wedi bod yn ceisio ei adnewyddu a’i wella gymaint â phosibl gyda’r hyn roeddwn i wedi’i arbed bob wythnos, ond roedd yna lawer o brosiectau mawr roeddwn i’n gwybod y byddai’n rhaid i mi eu gadael i aros oherwydd ni fyddwn yn gallu eu fforddio am gyfnod.”

“Roedd hyn yn cynnwys trwsio’r to gwastad yr oedd fy hen dad-cu wedi’i wneud o’r blaen, drysau a ffenestri newydd yr oedd angen eu newid, gosod toiled, paentio’r tu allan, arwyddion newydd a chanopi newydd mawr ei angen ar gwsmeriaid oherwydd bod yr un blaenorol wedi rhwygo mewn mannau.”

“Hoffwn ddiolch i Anna, y Swyddog Prosiect o’r Tîm Adfywio yng Nghyngor Wrecsam, am fod yn hynod barod i helpu a gwneud popeth yn syml iawn i mi, sydd ddim yn dasg hawdd.”

“Hoffwn ddiolch hefyd i Aidrian o Gyngor Wrecsam am dynnu fy sylw at y grant a sicrhau bod yr holl fusnesau lleol yn gwybod y diweddaraf am brosiectau Wrecsam.”

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth, ‘ Mae darparu’r Rhaglen Trawsnewid Trefi yn gwneud cyllid ar gyfer prosiectau adfywio yn fwy hygyrch, gan ein galluogi i adeiladu ar y llwyddiannau yr ydym eisoes wedi’u cyflawni yn Wrecsam. Mae Caffi Marubbi’s yn enghraifft wych o fusnes hirsefydlog yn Wrecsam sy’n buddsoddi yn ei ddyfodol, wrth ddiogelu’r dreftadaeth a’r cymeriad sy’n gwneud canol ein dinas yn arbennig.”

“Yn ogystal â gwella golwg adeilad hanesyddol pwysig, mae’r prosiect wedi helpu i gefnogi contractwyr lleol, creu swyddi a symud ymlaen â’r cynlluniau busnesau ar gyfer twf.”

“Mae’n arbennig o braf gweld busnes teuluol pumed cenhedlaeth yn parhau i ffynnu yng nghanol Wrecsam. Mae gwelliannau fel hyn yn helpu i gryfhau canol y ddinas, cefnogi’r economi leol a gwneud Wrecsam yn lle mwy deniadol i breswylwyr ac ymwelwyr.”

Mae Marubbi’s yn 10 Stryt y Banc, LL11 1AH, ac mae ar agor rhwng 8:30am a 5pm.

Gallwch gysylltu â Chaffi Marubbi’s drwy ffonio 01978291897.

I gael rhagor o wybodaeth am y Rhaglen Trawsnewid Trefi, anfonwch e-bost i grants@wrexham.gov.uk

Rhannu
Erthygl flaenorol Minera Roof Trusses Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Erthygl nesaf Blue emergency services light Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi
Busnes ac addysg
Awst 28, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Awst 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
DigwyddiadauPobl a lle

Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr

Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
ArallPobl a lle

Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi

Awst 26, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Pobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English