Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 9, 2026 11:14 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
RHANNU

Mae’r apêl cotiau gaeaf i blant yn ôl, gyda thrigolion yn cael eu hannog i roi cotiau o ansawdd da nad oes eu hangen arnyn nhw mwyach i helpu i gadw plant lleol yn gynnes yn ystod y gaeaf.

Mae’r Hwb Lles yn derbyn rhoddion o gotiau gaeaf ar gyfer plant 4-16 oed, a dylen nhw fod yn lân ac mewn cyflwr da.

P’un a yw’n gôt mae eich plentyn wedi tyfu allan ohoni neu’n un sydd ddim yn cael ei defnyddio mwyach, gallai gael bywyd newydd wrth helpu teulu arall yn Wrecsam.

Mae’r apêl flynyddol eisoes wedi dangos y gwahaniaeth y gall cotiau ail law ei wneud.

Y llynedd, derbyniodd 156 o blant gôt gaeaf drwy’r apêl, gyda chotiau wedi’u dosbarthu trwy ysgolion lleol, sefydliadau trydydd sector a gwasanaethau’r cyngor.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, yr Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd, “Mae côt gynnes yn rhywbeth y dylai pob plentyn ei chael wrth i ni gyrraedd y misoedd oerach, ac mae’r apêl hon yn ffordd i bobl ledled Wrecsam wneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd lleol.

Y llynedd, helpodd yr apêl 156 o blant, sy’n dangos pa mor werthfawr y gall y rhoddion hyn fod.

Os oes gennych chi gôt plentyn gartref sy’n lân, mewn cyflwr da ac nad oes ei hangen mwyach, rydw i’n eich annog i ystyried ei rhoi a helpu plentyn arall i gadw’n gynnes yn ystod y gaeaf.”

Mae’r cynllun yn helpu i sicrhau bod plant yn cael dillad cynnes addas yn ystod y misoedd oerach, wrth gynnig cymorth ymarferol i deuluoedd sy’n wynebu pwysau ychwanegol ar gyllideb eu haelwyd hefyd.

Gyda’r gaeaf yn agosáu unwaith eto, gofynnir i drigolion gefnogi apêl eleni a helpu i sicrhau bod mwy o blant ledled Wrecsam yn gallu cadw’n gynnes.

Gellir gadael cotiau yn:

Yr Hwb Lles

Adeiladau’r Goron

Wrecsam

LL13 8BG

Os ydych chi’n gadael rhoddion ar ôl 4pm, gellir gwneud hynny yn:

Canolfan Byd Dŵr

Wrecsam

LL13 8DH

Dylai’r holl gotiau a roddir fod yn lân, mewn cyflwr da ac yn addas i blant 4-16 oed.

Os oes gennych chi hen gôt gartref nad oes ei hangen mwyach, ystyriwch ei rhoi a helpu plentyn arall yn ystod y gaeaf.

Rhannu
Erthygl flaenorol Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
Housing Image
Y cyngor

Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru

Hydref 7, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English