Mae trigolion yn cael eu hannog i godi llais os oes ganddynt bryderon am ddiogelwch neu les rhywun fel rhan o Wythnos Ddiogelu Cymru, a gynhelir rhwng 9-13 Tachwedd.
Mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb a gall adnabod pan nad yw rhywbeth yn iawn wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth amddiffyn plant, pobl ifanc ac oedolion sydd mewn perygl o gam-drin neu esgeulustod.
Mae’r ymgyrch leol eleni, ‘Ddylwn i ddweud rhywbeth?’ yn tynnu sylw at bwysigrwydd cydnabod pryderon, gofyn cwestiynau a gweithredu yn hytrach na chadw’n dawel.
Gall pryderon diogelu fod ar sawl ffurf, gan gynnwys cam-drin corfforol neu emosiynol, esgeulustod, ecsbloetio ariannol, niwed ar-lein neu sefyllfaoedd eraill lle gall rhywun fod mewn perygl.
Weithiau nid yw’r arwyddion yn amlwg ar unwaith.
Gallai newidiadau yn ymddygiad rhywun, arwyddion o drallod neu bryderon am sut mae person yn cael ei drin fod yn arwydd bod rhywbeth o’i le.
Nid oes angen i chi gael yr holl atebion na bod yn siŵr bod cam-drin yn digwydd cyn codi pryder. Gall siarad fod yn gam cyntaf pwysig tuag at sicrhau bod rhywun yn derbyn yr help a’r amddiffyniad sydd eu hangen arnynt.
Gydol yr Wythnos Ddiogelu, bydd Cyngor Wrecsam yn cefnogi gweithgareddau codi ymwybyddiaeth a sesiynau briffio staff a drefnir gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.
Bydd y rhain yn archwilio materion pwysig gan gynnwys misogynedd ar-lein, caethwasiaeth fodern, masnachu pobl, a dysgu o adolygiadau diogelu blaenorol, gan helpu i gryfhau adnabyddiaeth a’r adrodd am bryderon diogelu.
Mae’r ymgyrch hefyd yn adlewyrchu gwersi pwysig o’r Adolygiad Ymarfer Plant, ‘Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder’, a amlygodd yr angen i wrando ar blant a phobl ifanc, cymryd pryderon o ddifri a gweithredu pan nad yw rhywbeth yn ymddangos yn iawn.
Mae’r adolygiad yn ein hatgoffa am bwysigrwydd sicrhau bod pobl yn teimlo eu bod yn gallu siarad a bod eu pryderon yn cael eu clywed.
Dwedodd y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd, “Mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb, ac mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth helpu i amddiffyn pobl agored i niwed yn ein cymunedau.
Weithiau gall fod yn anodd gwybod a ddylid siarad pan fydd rhywbeth yn ymddangos o’i le, ond gallai codi pryder wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd rhywun.
Mae’r Wythnos Ddiogelu yn gyfle pwysig i atgoffa pobl na ddylent ofni gofyn cwestiynau, rhannu pryderon neu ofyn am gyngor. Trwy edrych allan am ein gilydd, gallwn helpu i gadw pawb yn ddiogel.”
Dwedodd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol Oedolion, Iechyd a Lles, “Mae pawb yn haeddu teimlo’n ddiogel, o gael eu parchu a’u cefnogi yn eu cymuned, ond yn anffodus mae yna bobl a allai fod yn profi camdriniaeth, esgeulustod neu ecsbloetio heb i eraill sylweddoli.
Nid cyfrifoldeb gweithwyr proffesiynol yn unig yw diogelu. Gall ffrindiau, aelodau o’r teulu, cymdogion ac aelodau o’r cyhoedd i gyd chwarae rhan bwysig wrth adnabod pryd y gallai rhywun fod angen help.
Byddwn yn annog unrhyw un sydd â phryderon am ddiogelwch neu les person arall i leisio hynny. Nid oes angen i chi fod yn siŵr bod rhywbeth o’i le i godi pryder, a gallai cymryd y cam cyntaf hwnnw wneud gwahaniaeth go iawn.
Os ydych chi’n poeni am ddiogelwch neu les plentyn, person ifanc neu oedolyn mewn perygl, mae’n bwysig rhannu eich pryderon.
Os ydych chi’n poeni bod plentyn mewn perygl o niwed neu esgeulustod, gallwch e-bostio Pwynt Mynediad sengl plant (SPoA) neu ffonio 01978292039.
Os ydych chi’n poeni bod oedolyn mewn perygl, gallwch e-bostio Pwynt Mynediad Sengl Oedolion (SPoA) neu ffonio 01978292066.
Os yw y tu allan i oriau gwaith arferol, gallwch ffonio’r gwasanaethau cymdeithasol brys y tu allan i oriau ar 03450533116.
Os yw rhywun mewn perygl ar unwaith, ffoniwch 999.
Mae rhagor o wybodaeth am ddiogelu a sut i roi gwybod am bryderon ar gael ar wefan Cyngor Wrecsam.
Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ac adnoddau ar wefan Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru.
Cofiwch, os nad yw rhywbeth yn ymddangos yn iawn, peidiwch â bod ofn siarad. Gallai eich gweithredoedd helpu i amddiffyn rhywun rhag niwed.


