Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Partneriaeth Coedwig Wrecsam yn dathlu Wythnos Genedlaethol Coed gyda digwyddiad cymunedol yn Tŷ Pawb
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Digwyddiadau > Partneriaeth Coedwig Wrecsam yn dathlu Wythnos Genedlaethol Coed gyda digwyddiad cymunedol yn Tŷ Pawb
Digwyddiadau

Partneriaeth Coedwig Wrecsam yn dathlu Wythnos Genedlaethol Coed gyda digwyddiad cymunedol yn Tŷ Pawb

Diweddarwyd diwethaf: November 18, 2026 4:09 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Tŷ Pawb
RHANNU

Fe’ch gwahoddir i ddarganfod, dathlu a helpu i lywio dyfodol coed a choetiroedd yn Wrecsam

Mae Partneriaeth Coedwig Wrecsam yn gwahodd pobl i ymuno â dathliad arbennig ar Wythnos Genedlaethol Coed yn Tŷ Pawb ddydd Llun 23 Tachwedd rhwng 10am a 4pm, gan ddod â chymunedau, partneriaid ac arbenigwyr ynghyd i archwilio’r rôl bwysig y mae coed yn ei chwarae mewn bywyd bob dydd. Wedi’i ffurfio yn 2022, sefydlwyd Partneriaeth Coedwig Wrecsam gan Gyngor Wrecsam o dan arweiniad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint a Wrecsam i weithredu’r Strategaeth Coed a Choetiroedd. Mae’r Bartneriaeth yn dwyn ynghyd grŵp amrywiol o randdeiliaid wedi’u huno gan weledigaeth gyffredin; gwarchod, gwella ac ehangu coetiroedd Wrecsam ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Bydd y digwyddiad am ddim hwn yn cynnwys siaradwyr gwadd, gweithgareddau rhyngweithiol a chyfleoedd i ddysgu mwy am y gwaith sy’n digwydd ledled Wrecsam i warchod a gwella treftadaeth naturiol yr ardal.

Mae thema Wythnos Genedlaethol Coed eleni, “Coed yn Agos Atoch Chi”, yn dathlu’r coed sy’n rhan o’n bywydau bob dydd. O’r rheini sy’n sefyll mewn rhesi ar strydoedd ac mewn parciau i goed ar diroedd ysgolion, cymunedau a mannau gwyrdd lleol, mae’r coed hyn yn darparu cynefinoedd hanfodol ar gyfer bywyd gwyllt, yn gwella iechyd a lles, ac yn helpu i greu lleoedd gwyrddach ac iachach i bobl fyw ynddyn nhw.

Bydd cyfranogwyr yn gallu:

  • Clywed gan siaradwyr gwadd am ymdrechion i warchod a gwella coed a choetiroedd Wrecsam.
  • Mynd â choeden am ddim adref gan Coed Cadw a helpu i ehangu canopi coed Wrecsam.
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau mapio cymunedol dan arweiniad Prifysgol Wrecsam, gan helpu i nodi coed lleol gwerthfawr a llunio blaenoriaethau’r dyfodol ar gyfer coed a choetiroedd ar draws y fwrdeistref sirol.
  • Dysgu sut y gall pobl leol ofalu am goed a hyrwyddo coed yn eu cymdogaethau a chymryd rhan mewn gweithgareddau plannu coed, rheoli cynefinoedd neu gofnodi.
  • Dysgu sut y gall gwarchod a gwella coed a choetiroedd Wrecsam ein helpu i ddod yn fwy gwydn yn erbyn yr hinsawdd.

Dywedodd llefarydd ar ran Partneriaeth Coedwig Wrecsam:

“Mae Wythnos Genedlaethol Coed yn gyfle i ddathlu’r coed sy’n ein hamgylchynu bob dydd a chydnabod y manteision niferus maen nhw’n eu rhoi i’n cymunedau. P’un a ydyn nhw’n cynnig cysgod yn ein parciau, yn cefnogi bywyd gwyllt lleol neu’n gwella ein lles, mae coed yn hanfodol i greu lleoedd iach a gwydn. Fodd bynnag, does gan bawb ddim mynediad cyfartal i’r manteision mae coed yn eu cynnig ac mae rhai pobl yn byw heb goed. Nod Partneriaeth Coedwig Wrecsam yw ysbrydoli trigolion i gysylltu â’r coed o’u cwmpas a dod o hyd i ffyrdd ymarferol y gallan nhw gefnogi dyfodol gwyrddach i Wrecsam.

Rydyn ni’n llawn cyffro i gynnig coed am ddim i drigolion lleol drwy Coed Cadw. Rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl yn mynd â choeden adref, ei phlannu, ac yn chwarae eu rhan eu hunain wrth dyfu canopi Wrecsam yn y dyfodol ar gyfer cenedlaethau i ddod.”

Mae Wythnos Genedlaethol Coed yn nodi dechrau tymor plannu coed y gaeaf ac yn annog pobl i gymryd rhan yn y gwaith o greu cymunedau gwyrddach ac iachach. Fel rhan o hyn, bydd trigolion lleol yn cael cyfle i gymryd rhan mewn digwyddiad plannu coed yn Stori Brymbo ar 25 Tachwedd drwy brosiect Coedwig Hir Drefol Cadwch Gymru’n Daclus. Wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae’r prosiect yn gweithio gyda chymunedau i ddod â mwy o goed i fannau trefol, gan helpu i greu cymdogaethau gwyrddach a gwella mynediad at y manteision niferus mae coed yn eu cynnig.

I gael rhagor o wybodaeth am y cyfle i blannu, cysylltwch ag Emma Watson yn Cadwch Gymru’n Daclus: Emma.Watson@keepwalestidy.cymru.

Rhannu
Erthygl flaenorol Acton Resource Centre Diweddariad ar Ganolfan Adnoddau Acton – rhannwch eich barn i helpu i lunio cynlluniau’r estyniad

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Acton Resource Centre
Diweddariad ar Ganolfan Adnoddau Acton – rhannwch eich barn i helpu i lunio cynlluniau’r estyniad
Y cyngor
November 17, 2026
Victorian
Mae Marchnad Nadolig Fictoraidd Wrecsam yn dychwelyd y tymor Nadoligaidd hwn
Digwyddiadau Busnes ac addysg Pobl a lle
November 17, 2026
Costa Coffee yn noddi coeden Nadolig eleni yn Sgwâr y Frenhines
Costa Coffee yn noddi coeden Nadolig eleni yn Sgwâr y Frenhines
Pobl a lle Y cyngor
November 17, 2026
Homelink at 50
Pen-blwydd Hapus Cyswllt Cartref!
Y cyngor Fideo Pobl a lle
November 17, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae'n cymryd pob un ohonom: Wrecsam yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn 2026
DigwyddiadauY cyngor

Mae’n cymryd pob un ohonom: Wrecsam yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn 2026

November 17, 2026
Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!
DigwyddiadauPobl a lle

Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!

November 12, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

October 22, 2026
Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!
Y cyngorDigwyddiadau

Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!

November 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English