Oes gennych chi ddiddordeb mewn rôl ofalu? Yna efallai mai ymweld â’r Ffair Swyddi ddydd Mawrth (29 Mai) yw’r man cychwyn i chi.
Byddwn yn cynnal y digwyddiad rhwng 10am a 3pm yn y Neuadd Goffa a bydd swyddi yn gofalu am bobl yn eu cartrefi ei hunain, gyda ni a chydag asiantaethau preifat, ar gael.
Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Mae’r gwaith o ofalu am rhywun yn eu cartref eu hunain yn bwysig iawn a gall fod yn llawn gwobrwyon. Rwy’n gwybod bod staff yn edrych ymlaen at gyfarfod cymaint o bobl â phosibl, a rhannu’r cyfleoedd gwaith sydd ar gael yn y sector gofalu holl bwysig hwn.”
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/online_w/eforms/pothole.htm “] DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL [/button]