Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen A allai ShopMobility wneud dathlu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn haws i chi?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall
Wrexham v Swansea
Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Pobl a lle
Young Carers Action Day 2026
Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2026
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > A allai ShopMobility wneud dathlu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn haws i chi?
Pobl a lle

A allai ShopMobility wneud dathlu Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yn haws i chi?

Diweddarwyd diwethaf: 2025/05/06 at 4:17 PM
Rhannu
Darllen 2 funud
S
RHANNU

Os hoffech chi, neu rywun rydych chi’n ei adnabod, fynd i ddathliadau Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop yng nghanol y ddinas ar 8 Mai, ond yn poeni am gerdded, beth am ddefnyddio ShopMobility?

Mae ShopMobility Wrecsam ar Stryt y Brenin ac mae’n cynnig offer amrywiol, i bobl o bob oedran, i helpu pobl â symudedd cyfyngedig.

Mae’n rhad ac am ddim i fod yn aelod o ShopMobility. Galwch i mewn i’w swyddfa gyda dwy fath o ddull adnabod (un gyda’ch llun ac un gyda’ch cyfeiriad) a chwblhau asesiad byr fel y gallant gynnig y sgwter gorau i chi ar gyfer eich anghenion.

Mae’r swyddfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 4pm a gallant gynnig llogi cadeiriau olwyn a sgwteri symudedd am ddiwrnod neu dros nos/hirdymor.

Beth yw’r gost?

Y dydd:

  • Sgwter symudedd – £5 y dydd (ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am – 4pm)
  • Cadair olwyn – £3.50 (ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am – 4pm)

Llogi dros nos neu hirdymor*:

  • Sgwter cist (cludadwy, yn ffitio mewn cist car) – £10 y dydd
  • Cadair olwyn – £5 y dydd

*Mae angen blaendal o £50 ar gyfer pob archeb hirdymor

Mae’r holl offer ar gael i’w gasglu a’i ddychwelyd yn swyddfa ShopMobility yng nghanol dinas Wrecsam, yn yr orsaf fysiau ar Stryt y Brenin.

Gellir dechrau aelodaeth am ddim i ShopMobility unrhyw bryd, felly os ydych chi’n meddwl y byddai sgwter neu gadair olwyn yn ateb da i chi, galwch heibio i’r swyddfa gyda’ch dau ddull adnabod, cwblhau’r asesiad byr ac rydych chi’n barod i fynd!

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol Pobl yn codi eu dwylo mewn cynulleidfa gig cerddoriaeth FOCUS Wales: gŵyl gerddoriaeth aml-leoliad yn dychwelyd i Wrecsam 8-10 Mai!
Erthygl nesaf Oeddech chi'n gwybod am rôl bwysig y rhanbarth fel ardal denu yn ystod yr Ail Ryfel Byd? Oeddech chi’n gwybod am rôl bwysig y rhanbarth fel ardal denu yn ystod yr Ail Ryfel Byd?

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall Mawrth 12, 2026
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall Mawrth 12, 2026
Wrexham v Swansea
Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?
Digwyddiadau Pobl a lle Mawrth 11, 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Pobl a lle Mawrth 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrexham v Swansea
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?

Mawrth 11, 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Pobl a lle

Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026

Mawrth 11, 2026
Young Carers Action Day 2026
Pobl a lle

Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc 2026

Mawrth 10, 2026
Wrexham Ty Pawb
DigwyddiadauPobl a lle

Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn Nhŷ Pawb

Mawrth 9, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English