Mae pobl ifanc sy’n destun camfanteisio yn amlwg iawn yn y newyddion ar hyn o bryd ac mae rheswm da dros hynny.
Gall cam-fanteisio gymryd sawl ffurf, troseddol, rhywiol, masnachu mewn pobl a chaethwasiaeth fodern ac nid yw bob amser yn bosib gwybod pan fo rhywun mewn perygl o fod yn destun camfanteisio.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Mae rhai arwyddion cyffredin mewn pobl ifanc a all amlygu cam-fanteisio.
Dyma rai arwyddion a symptomau i edrych amdanynt:
- Efallai y bydd newid mewn ymddangosiad.
- Efallai y bydd llai o gyswllt gyda’u teulu neu ffrindiau o gymharu ag arfer.
- Efallai y bydd ganddynt set newydd o ffrindiau ac wedi mynd yn gyfrinachol.
- Efallai y byddant yn hunan-niweidio neu efallai bod newidiadau mawr yn eu cyflwr emosiynol er enghraifft efallai eu bod yn arfer bod yn eithaf agored ond bellach wedi encilio a ddim yn siarad am eu teimladau fel oeddent yn arfer ei wneud.
- Efallai y byddant yn dechrau defnyddio cyffuriau neu alcohol, neu gael eu gweld yn cario cyffuriau neu alcohol.
- Gallant fod yn treulio llawer o amser ar-lein a ddim yn dweud wrthych gyda phwy maent yn siarad.
- Efallai na fyddant yn mynd i’r ysgol ac yn chwarae triwant, neu’n diflannu o’r cartref teuluol neu nid ydych yn gwybod ble maent neu ble maent wedi bod.
A yw hyn yn swnio fel rhywun rydych yn ei adnabod? Peidiwch â phoeni – mae cymorth ar gael a bydd Gwasanaethau Plant Wrecsam yn darparu’r cymorth hwnnw. Maent ar gael ar 01978 292039 i siarad am eich pryderon.
Cofiwch roi galwad iddynt gan y gallech atal cam-fanteisio pellach rhag digwydd.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG