Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen A oes arnoch chi angen clirio dail yr hydref? Nid yw’n rhy hwyr i ymuno â’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > A oes arnoch chi angen clirio dail yr hydref? Nid yw’n rhy hwyr i ymuno â’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd
Y cyngor

A oes arnoch chi angen clirio dail yr hydref? Nid yw’n rhy hwyr i ymuno â’r gwasanaeth casglu gwastraff gardd

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 7, 2021 9:41 am
Rhannu
Darllen 3 funud
green bin
RHANNU

Dechreuodd gwasanaeth casglu gwastraff gardd 2021/22 ar 30 Awst, ond os nad ydych wedi cael cyfle eto i gofrestru a’ch bod bellach yn difaru, nid yw’n rhy hwyr i chi ymuno.

Cynnwys
  • Talwch ar-lein lle bo modd
    • Gadewch 10 diwrnod i’ch sticer gyrraedd

Mae’r tâl gwasanaeth wedi ei rewi ar £25 y flwyddyn a bydd y gwasanaeth yn para o’ch dyddiad cofrestru tan 2 Medi 2022, felly cofrestrwch cyn gynted â phosibl i gael y gwerth gorau am arian. Yn syml, gorau po gyntaf y byddwch yn ymuno er mwyn i chi gael mwy o gasgliadau.

Os ydych yn dymuno i’ch bin(iau) gwastraff gardd gael eu casglu gallwch dalu ar-lein ar www.wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd

COFRESTRWCH I DALU AM GASGLIADAU BIN

Os byddwch yn cofrestru rŵan, byddwch yn cael 11 mis o gasgliadau, a phe baech yn ei adael am fis arall cyn cofrestru, byddwch yn talu’r un pris am 10 mis o gasgliadau.

Felly mae hi’n well cofrestru rŵan i gael mwy o gasgliadau.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae tymor yr hydref bellach wedi cyrraedd, mae’r dail yn disgyn oddi ar goed ac mae pobl yn dechrau clirio’r planhigion marw yn dilyn yr haf, felly mae arnom ni eisiau atgoffa trigolion bod modd iddynt ymuno â’r cynllun casglu gwastraff gardd. Bydd y gwasanaeth yn weithredol tan 2 Medi, 2022 felly mae modd i chi gael misoedd o gasgliadau am £25 os byddwch yn cofrestru’n fuan. Os oes arnoch chi eisiau ymuno, ymwelwch â wrecsam.gov.uk/gwastraffgardd a dilynwch y cyfarwyddiadau i dalu am y gwasanaeth.”

Talwch ar-lein lle bo modd

Talu ar-lein yw’r ffordd hawsaf a mwyaf cyfleus o gofrestru ar gyfer y gwasanaeth, a gallwch wneud hyn ar unrhyw adeg o’r dydd, a bydd ond yn cymryd ychydig funudau i chi.

Os nad yw’n bosibl i chi dalu ar-lein, gallwch ffonio Gwasanaethau Stryd i dalu â cherdyn, ond mae’n debyg y bydd rhaid i chi aros i wneud hynny.

Gadewch 10 diwrnod i’ch sticer gyrraedd

Bydd preswylwyr sy’n cofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn derbyn sticer newydd, y bydd angen ei arddangos yn glir ar gaead eich bin. Gadewch 10 diwrnod o leiaf o’r dyddiad rydych yn cofrestru er mwyn derbyn eich pecyn sticer newydd.

Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://beta.wrecsam.gov.uk/service/beth-syn-mynd-ir-bincynwysyddion-ailgylchu/gwasanaeth-casglu-gwastraff-gardd”] RYDW I EISIAU TALU RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Nodi carreg filltir £1 miliwn busnes gydag ymweliad. Nodi carreg filltir £1 miliwn busnes gydag ymweliad.
Erthygl nesaf Gadewch Ond Olion Pawennau – ymgyrch newydd i fynd i’r afael â baw cŵn Gadewch Ond Olion Pawennau – ymgyrch newydd i fynd i’r afael â baw cŵn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English