Guest article written by John Parr
Gyda’n byd dan warchae rhyfel, mae neges argyhoeddiadol o faes y gad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn cyfleu’r angen am heddwch.
Mae ffilm fer John Parr, A Pack of Lies, yn cynnwys milwyr yn gorffwys o erchyllterau rhyfel, gan rannu mwgyn ac atgofion o gartref. Mae John Parr, artist sydd wedi’i enwebu am Grammy, wedi ysgrifennu, cyfarwyddo a chyfansoddi’r gerddoriaeth ar gyfer y ffilm. Mae John yn adnabyddus iawn ar ôl gweithio ar 15 ffilm Hollywood a chyrraedd brig y siartiau cerddoriaeth ddwywaith; yr enwog St Elmo’s Fire oedd un ohonynt.
Meddai John, “Fy ngobaith i yw y bydd pawb sy’n gweld y ffilm yn cymryd y neges i galon ac yn gweithio’n ddiflino dros fyd heb ryfel. Ar yr adeg hon o wrthdaro digynsail ledled y byd, mae’n alwad glir am weithredu penderfynol gan arweinwyr y byd i ymrwymo i ddatrys gwrthdaro’n heddychlon.”
Mae’r ffilm wedi’i hysgrifennu a’i chynhyrchu gan y Cyfarwyddwr BAFTA Cymru, John Parr, ac fe’i cynhyrchwyd hefyd gan Simon Howlett a Delyth Lloyd. Mae hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan feirdd clodwiw, Alan Llwyd a Ceri Wyn Jones,
Côr Meibion Treorci a Chwmni Theatr Gerddorol Ieuenctid Harry Secombe. Bydd y ffilm fer ac emosiynol hon yn cael ei dangos yn Llyfrgell Wrecsam Ddydd Mawrth, 5 Awst am 6pm. Mae’r digwyddiad am ddim ond bydd angen i chi gadw lle drwy gysylltu â’r llyfrgell ar 01978 292090 | library@wrexham.gov.uk
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.