Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen A wnaethoch chi fethu un o’r rhain? Dyma 7 o’r ffeithiau ailgylchu gorau #1
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > A wnaethoch chi fethu un o’r rhain? Dyma 7 o’r ffeithiau ailgylchu gorau #1
Y cyngor

A wnaethoch chi fethu un o’r rhain? Dyma 7 o’r ffeithiau ailgylchu gorau #1

Diweddarwyd diwethaf: Awst 1, 2019 11:39 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Recycling Facts Wrexham
RHANNU

Ar gyfer sawl peth mewn bywyd, mae gwybodaeth yn allweddol – ac nid yw ailgylchu’n wahanol. Po fwyaf o wybodaeth sydd gennych chi, y gorau y gwnewch chi ailgylchu… a gydag ailgylchu, mae’n sicr bod digon o bethau i’w gwybod.

Felly gan ystyried hyn, rydym wedi penderfynu rhoi ffaith am ailgylchu ar ein tudalennau Facebook a Twitter bob dydd, i helpu pobl i ddeall ailgylchu yn Wrecsam yn iawn.

Dechreuwyd hyn yr wythnos diwethaf a byddwn yn parhau i wneud hyn dros yr ychydig wythnosau nesaf hefyd, felly arhoswch gyda ni i gael mwy o ffeithiau ailgylchu…

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Ond am y tro, dyma ein saith neges gyntaf 🙂

Ffaith 1- Gellir ailgylchu hambyrddau prydau parod gyda phlastig eraill ar ymyl y palmant yn eich bocs gwyrdd/bocs canol, ond sicrhewch eich bod wedi eu golchi cyn eu hailgylchu.

Ffaith 2- Pan fyddwch yn ailgylchu tuniau, mae’n haws i ni ailgylchu caead y tun os ydych chi’n ei osod y tu mewn i’r tun gwag glân.

Pan fyddwch yn ailgylchu tuniau, mae'n haws i ni ailgylchu caead y tun os ydych chi'n ei osod y tu mewn i’r tun gwag glân #wrecsam #ailgylchu pic.twitter.com/e7XGQhj8bz

— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) July 24, 2019

Ffaith 3- Oes rhywbeth wedi llwydo yn eich oergell? Rhowch hwn mewn bag cadi a’i roi yn syth yn eich cadi bwyd mawr yn barod i’w gasglu. Cofiwch fod eich cadi yn cael ei wagu bob wythnos…os rhowch y bwyd yn y bin du, bydd yn sefyll yno am bythefnos ac yn dechrau drewi.

Ffaith 4- A oeddech chi’n gwybod bod tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam lle gallwch ailgylchu llawer iawn o bethau, gan gynnwys batris car?

Ffaith 5- Gofynnwyd i ni yn ddiweddar, “ydw i’n gallu ailgylchu poteli diaroglyddion rholio?” Yr ateb yw YDYCH, rydych chi yn gallu eu hailgylchu! Rhowch nhw yn eich bocs ailgylchu du/y bocs isaf.

Gofynnwyd i ni yn ddiweddar, "ydw i’n gallu ailgylchu poteli diaroglyddion rholio?” Yr ateb yw YDYCH, rydych chi yn gallu eu hailgylchu! Rhowch nhw yn eich bocs ailgylchu du/y bocs isaf #wrecsam #ailgylchu pic.twitter.com/MeaTiQI1R5

— Cyngor Wrecsam (@cbswrecsam) July 27, 2019

Ffaith 6- Gellir ailgylchu tybiau menyn a margarîn gyda phlastig eraill ar ymyl y palmant yn eich bocs gwyrdd/bocs canol.

Ffaith 7- Oes gennych chi bryd parod heb ei fwyta? Gellir ailgylchu’r bwyd yn eich cadi bwyd, a gallwch ailgylchu unrhyw focsys cardbord a phlastig hefyd…ond sicrhewch eu bod nhw’n lân yn gyntaf.

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/school_uniform_grant_w.htm “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Click and Collect Beth ydych chi eisiau o’r marchnadoedd yng nghanol y dref?
Erthygl nesaf Mynd i’r afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yng nghanol y dref Mynd i’r afael ag Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yng nghanol y dref

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Crematorium
Y cyngor

Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan

Medi 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English