Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen A ydych chi’n un o’r #Arwyr Carbon Isel? Hoffai Llywodraeth Cymru glywed gennych
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > A ydych chi’n un o’r #Arwyr Carbon Isel? Hoffai Llywodraeth Cymru glywed gennych
Y cyngor

A ydych chi’n un o’r #Arwyr Carbon Isel? Hoffai Llywodraeth Cymru glywed gennych

Diweddarwyd diwethaf: Medi 23, 2020 4:28 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Low Carbon Heroes
RHANNU

Rydym yn cefnogi ymgyrch “Arwyr Carbon Isel” Llywodraeth Cymru yn y cyfnod sy’n arwain at Wythnos Hinsawdd Cymru (2-6 Tachwedd) wrth i’r wlad geisio canolbwyntio ar lwybr cyfrifol yn amgylcheddol allan o’r cyfyngiadau a symud tuag at genedl fwy ffyniannus a chynaliadwy.

Ers mis Mawrth, mae Covid-19 wedi newid ein ffordd o fyw ac mae nifer ohonom wedi dechrau gwneud pethau sy’n fwy ecogyfeillgar.

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Rydym wedi bod yn cadw’n heini yn yr awyr agored, uwchgylchu dillad, tyfu llysiau a phrynu cynnyrch lleol – ac mae’r pethau hyn wedi arwain at ostyngiad yn ein hôl troed carbon, ac os ydych chi wedi gwneud rhai o’r pethau hyn, byddem wrth ein bodau’n clywed eich profiadau.

Nid yn unig y mae’r atebion hyn yn lleihau carbon, ond maent hefyd yn helpu pobl i fod yn fwy egnïol, lleihau costau a chefnogi siopau a chymunedau lleol. Er mwyn cydnabod hyn, mae’r ymgyrch #ArwyrCarbonIsel yn anelu at amlygu a hyrwyddo ymddygiadau cadarnhaol o ganlyniad i’r pandemig Covid-19.

Rydym yn eich gwahodd i dynnu sylw at eich ymdrechion drwy rannu eich profiadau ar y cyfryngau cymdeithasol a defnyddio’r hashnod #ArwyrCarbonIsel (neu #LowCarbonHeroes yn Saesneg).

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Datganwyd argyfwng hinsawdd y llynedd, ac rydym yn gwybod bod pobl yn Wrecsam yn awyddus i Lywodraeth Cymru a ninnau wneud mwy i leihau ein hôl troed carbon. Dyna pam ein bod ni’n cefnogi’r ymgyrch hwn, ac mae arnom ni eisiau defnyddio’r ymgyrch #ArwyrCarbonIsel er mwyn rhannu eich profiadau.

“Efallai eich bod chi wedi bod yn prynu cynnyrch lleol yn hytrach nag ymweld â’r archfarchnad, neu efallai eich bod wedi dechrau seiclo neu gerdded yn amlach, sy’n golygu eich bod yn defnyddio llai o danwydd ac yn gwneud llai o filltiroedd ar y car. Beth bynnag yr ydych wedi bod yn ei wneud, byddem ni a Llywodraeth Cymru wrth ein boddau’n clywed gennych.

“Rydym eisoes wedi gwneud llawer o waith cyn y pandemig drwy blannu miloedd o goed a phlannu dolydd blodau gwyllt, gosod gorsafoedd gwefru trydan a defnyddio ynni solar, ond gwyddwn fod mwy y gallwn ei wneud er mwyn lleihau ein hôl troed carbon ymhellach fyth.”

Edrychwn ymlaen at glywed gennych, felly defnyddiwch yr hashnod #ArwyrCarbonIsel a rhannwch eich profiadau â ni.

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/school_uniform_grant_w.htm “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Buskers Mae Bysgwyr yn ôl ond gofynnir iddynt ddilyn cyngor
Erthygl nesaf Byddwch yn drech na’ch cardfwrdd...Bydd wych. Ailgylcha. Byddwch yn drech na’ch cardfwrdd…Bydd wych. Ailgylcha.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English