Gallai prosiect addysg ddod â bywyd newydd i hen safle ysgol fabanod, gan ei thrawsnewid yn amgylchedd dysgu modern ar gyfer hyd at 40 o ddisgyblion oedran ysgol uwchradd.
Mae’r cynllun yn golygu ailfodelu ac ailwampio hen safle babanod Ysgol yr Hafod ar Rodfa Melyd, Johnstown, i gefnogi symud myfyrwyr a addysgir ar hyn o bryd yn Uned Cyfeirio Disgyblion Haulfan ar Ffordd Rhosddu yn Wrecsam.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam: “Nid yw’r safle ar Ffordd Rhosddu yn ddelfrydol o bell ffordd, oherwydd dim ond mynediad cyfyngedig iawn i ardal yn yr awyr agored sydd yno, a dim mannau gwyrdd o gwbl.
“Mewn cyferbyniad, gellid addasu’r safle ar Rodfa Melyd i greu amgylchedd dysgu llawer gwell ar gyfer y disgyblion, gyda mynediad at ardal yn yr awyr agored, mannau gwyrdd a’r posibilrwydd ar gyfer ehangu a gwella’r adeiladau yn y dyfodol.
“Byddai hyn o fudd mawr i lawer o fyfyrwyr Haulfan, a byddai hefyd yn ei gwneud yn haws i fyfyrwyr a staff deithio i safleoedd Unedau Cyfeirio Disgyblion eraill, fel Stiwdio Pen-y-Cae.”
Dewis synhwyrol
Y llynedd, symudodd Ysgol yr Hafod ei disgyblion i gyd i’r safle sydd newydd ei hehangu a’i moderneiddio ar Ffordd Bangor – gan ymadael â safle’r babanod ar Rodfa Melyd.
Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol yr Hafod: “Ymddengys fod hyn yn ffordd dda o gael bywyd newydd i’r safle, a byddai o fudd i hyd at 40 o bobl ifanc o bob cwr i’r fwrdeistref sirol.
“Mae digonedd o leoedd parcio, ac er y bydd yna rywfaint mwy o sŵn, ni fyddai’n waeth nag yr oedd pobl wedi arfer ag o pan oedd babanod Ysgol yr Hafod yno.
“Nid yw’r adeilad wedi cael ei ddefnyddio ers i ni symud y plant i Ffordd Bangor, felly mae’n ymddangos yn synhwyrol i geisio ei ddefnyddio eto fel safle addysgol.”
Datblygir y cynigion ymhellach yn y misoedd sydd i ddod gan adran addysg Cyngor Wrecsam, ond mae’n annhebygol y bydd unrhyw newid yn digwydd cyn y flwyddyn nesaf.