Gallai’r terfyn cyflymder ar ddarn o ffordd y tu allan i Owrtyn, ger Wrecsam, gael ei ostwng yn dilyn pryderon am ddiogelwch.
Mae troad sydyn ar yr A528 o Owrtyn i Ellesmere yn lleoliad nifer o ddamweiniau traffig, ac mae’r cynghorydd lleol John McCusker wedi bod yn ymgyrchu dros ostwng y terfyn o 50mya i 30mya mewn ymgais i wneud y ffordd yn fwy diogel.
Yn ddiweddar, cyfarfu’r Cynghorydd McCusker â’r Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Arweiniol sy’n gyfrifol am drafnidiaeth strategol, ynghyd â swyddogion priffyrdd o Gyngor Wrecsam i edrych ar y rhan ffordd honno.
Yn dilyn y cyfarfod, cytunwyd y byddai ymgynghoriad statudol yn cael ei gynnal gyda golwg ar ostwng y terfyn cyflymder.
Byddai mwy o arwyddion hefyd yn cael eu hychwanegu ar hyd y llwybr.
Dwedodd y Cynghorydd McCusker: “Dydi damweiniau ar hyd y rhan yma o’r A528 ddim yn anghyffredin, ac mae’r troad yn y ffordd yn sydyn iawn.
“Byddai gostwng y terfyn gobeithio yn lleihau’r tebygolrwydd o ddamweiniau yn y dyfodol, ac rwy’n gwybod y byddai llawer o drigolion lleol yn hoffi gweld terfyn cyflymder 30mya yn cael ei gyflwyno.”
Dwedodd y Cynghorydd Bithell: “Cynhaliwyd y cyfarfod yn dilyn sawl damwain ar hyd y rhan honno o’r ffordd ac rydym wedi cytuno mewn egwyddor i leihau’r terfyn cyflymder o 50mya i 30mya yn amodol ar ymgynghoriad statudol.”