Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Adeiladau’r Goron yn Wrecsam ar ei newydd wedd yn agor yn y flwyddyn newydd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Adeiladau’r Goron yn Wrecsam ar ei newydd wedd yn agor yn y flwyddyn newydd
Y cyngor

Adeiladau’r Goron yn Wrecsam ar ei newydd wedd yn agor yn y flwyddyn newydd

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 17, 2021 5:08 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Community Wellbeing
RHANNU

Efallai eich bod wedi sylwi ar Adeiladau’r Goron ar ei newydd wedd ar Stryt Caer sydd wedi cael ei drawsnewid o adeiladu defnydd trwm ar ynni o’r 1960au i adeilad modern ac effeithlon a ellir ei gymharu â nifer o adeiladau newydd.

Mae’r gwaith adeiladu bellach wedi’i gwblhau ac mae gwaith mewnol eisoes yn digwydd er mwyn i staff symud i mewn yn gynnar y flwyddyn nesaf.

Gyda chymorth gan gyllid Llywodraeth Cymru, bydd yr adeilad yn darparu lleoliad i staff gofal cymdeithasol sydd yn helpu i ddarparu gwasanaethau plant ac oedolion, yn ogystal â dod yn lleoliad newydd ar gyfer ein Hadran Addysg ac Ymyrraeth Gynnar.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Hefyd ar y llawr gwaelod bydd Canolfan Lles Cymunedol Wrecsam a fydd yn lleoliad ar gyfer ystod o gyfleusterau hygyrch. Bydd yn galluogi pobl a theuluoedd sydd ag ystod eang o anghenion cefnogi i gymryd rhan gyda gwasanaethau cymunedol yn ogystal â chael mynediad hawdd at wybodaeth a chyngor ataliol.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, “Mae’r adeilad wedi trawsnewid i ddarparu cyfleuster modern a fydd yn ei gwneud yn haws i bobl, teuluoedd a gofalwyr i gael gwybodaeth, cyngor a chymorth sydd eu hangen arnynt.

“Mae’r canolbwynt ar fod yn effeithlon o ran ynni wedi bod yn bwysig wrth i ni symud i fod yn garbon niwtral erbyn 2030 a hoffwn ddiolch i bawb ynghlwm y prosiect am ddylunio a thrawsnewid yr hen gyfleuster i mewn i adeilad y gallwn ymfalchïo ynddo.”

“Bydd staff yn symud i mewn yn y flwyddyn newydd a bydd yr adeilad yn gweithredu’n llawn gan gynnig gwasanaeth o’r radd flaenaf mewn adeilad modern sy’n barod at y dyfodol.”

Mae’r Ganolfan yn brosiect partner rhwng Cyngor Wrecsam, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam. Bydd yn adeiladu ar, yn hytrach na dyblygu gwasanaethau sydd eisoes ar gael yng nghanol tref Wrecsam ac ardaloedd lleol eraill.

Mae’r gwaith wedi cael ei gyflawni gan Read Construction a’u Tîm Dylunio.

Meddai Alex Read, Cyfarwyddwr Read. “Mae prosiect adeilad y Goron yn cynrychioli’r hyn y gellir ei gyflawni mewn adeiladu carbon isel pan fydd prosiectau’n cael eu cysylltu ar y cyd. Drwy gydweithio ar y prosiect hwn, rydym wedi arbed 100 tunell o wastraff dymchwel, symiau cyfartal o echdynnu deunydd crai ac adfywio cyfleuster yng nghanol y dref i safonau carbon gweithredol isel modern. Mae Read yn falch o fod wedi bod yn rhan o’r prosiect hwn ac yn parhau i gefnogi ein cleientiaid ar eu teithiau i gyflawni net dim Carbon.”

Mae’r waliau a’r to wedi cael eu huwchraddio i gynnwys lefelau uchel o inswleiddiad thermol a bydd y ffenestri a’r drysau presennol yn cael eu hamnewid am unedau powdr thermol wedi’u gorchuddio mewn alwminiwm gyda gwydrau a reolir gan solar.

Mae defnyddio’r dull hwn yn golygu y bydd yr adeilad yn cadw gwres ym misoedd y gaeaf a’i leihau yn ystod yr haf.

Mae’r system wresogi wedi cael ei amnewid gyda boeleri modern sy’n effeithlon o ran ynni a goleuadau LED newydd sy’n effeithlon o ran ynni er mwyn lleihau’r galw ar drydan.

Yn ogystal â hynny, bydd y gwagle yn y to yn cael ei ddefnyddio’n llawn i osod nifer sylweddol o baneli ffotofoltäig a fydd yn gwella ôl troed carbon yr adeilad ymhellach trwy gynhyrchu ynni adnewyddadwy ar safle.

Tystysgrif ynni ar gyfer yr adeilad oedd cyfradd “D”, a diolch i’r gwaith mae bellach â chyfradd “A”.

Adeiladau'r Goron yn Wrecsam ar ei newydd wedd yn agor yn y flwyddyn newydd
Adeiladau'r Goron yn Wrecsam ar ei newydd wedd yn agor yn y flwyddyn newydd
Adeiladau'r Goron yn Wrecsam ar ei newydd wedd yn agor yn y flwyddyn newydd
Adeiladau'r Goron yn Wrecsam ar ei newydd wedd yn agor yn y flwyddyn newydd
Adeiladau'r Goron yn Wrecsam ar ei newydd wedd yn agor yn y flwyddyn newydd
Adeiladau'r Goron yn Wrecsam ar ei newydd wedd yn agor yn y flwyddyn newydd
Adeiladau'r Goron yn Wrecsam ar ei newydd wedd yn agor yn y flwyddyn newydd
Adeiladau'r Goron yn Wrecsam ar ei newydd wedd yn agor yn y flwyddyn newydd
Adeiladau'r Goron yn Wrecsam ar ei newydd wedd yn agor yn y flwyddyn newydd
Adeiladau'r Goron yn Wrecsam ar ei newydd wedd yn agor yn y flwyddyn newydd
Crown buildings in Wrexham
Adeiladau'r Goron yn Wrecsam ar ei newydd wedd yn agor yn y flwyddyn newydd
Crown Buildings

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Covid Nodyn briffio Covid-19 – rhowch hwb i’r Nadolig (trefnwch i gael eich pigiad atgyfnerthu)
Erthygl nesaf Mae'r canlyniadau i mewn - eich barn am atyniad newydd canol tref Wrecsam Mae’r canlyniadau i mewn – eich barn am atyniad newydd canol tref Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Y cyngor

Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein

Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English