Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd o ddydd Llun 27 Mehefin
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd o ddydd Llun 27 Mehefin
Y cyngor

Adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd o ddydd Llun 27 Mehefin

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 24, 2022 2:50 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Green garden waste bin
RHANNU

Ewch i wrexham.gov.uk/gwastraffgardd cyn mis Medi i wneud eich taliad ar-lein. Dyma’r ffordd mwyaf cyflym a hawdd i dalu, ac rydych chi’n cael gwneud hynny ar adeg sy’n gyfleus i chi. Sicrhewch eich bod wedi cofrestru erbyn mis Medi i osgoi colli unrhyw gasgliadau.

Cynnwys
  • Talwch ar-lein ble’n bosibl
  • Sticeri newydd ar gyfer 2022/23
  • Dim taliadau arian parod na sieciau
  • Nid wyf eisiau adnewyddu’r gwasanaeth – a wnewch chi gael gwared ar fy min gwastraff gardd?
  • Beth allai ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?

O ddydd Llun, 27 Mehefin, gall trigolion dalu i gael casglu eu gwastraff gardd rhwng Medi 2022-Medi 2023.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Mae’r gost ar gyfer 2022/23 yn aros yr un fath sef £25 fesul bin gwyrdd y flwyddyn, a bydd y gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Llun, 5 Medi 2022 tan ddydd Gwener, 1 Medi 2023.

Os ydych wedi talu ar gyfer casgliad gwastraff gardd y llynedd (2021/22), bydd eich bin(iau) gwyrdd yn parhau i gael ei gasglu/eu casglu tan 2 Medi.

Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Rydym yn falch o allu rhewi cost y gwasanaeth tan fis Medi 2023. Bydd y £25 fesul bin gwyrdd yn cadw cost gwasanaeth Wrecsam yn un o’r rhai isaf yng Nghymru a Lloegr. Gall trigolion adnewyddu o ddydd Llun, 27 Mehefin, a bydd angen iddynt sicrhau eu bod wedi talu am wasanaeth 2022/23 erbyn mis Medi i osgoi colli unrhyw gasgliadau ar ôl i’r gwasanaeth cyfredol ddod i ben.”

Adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd o ddydd Llun 27 Mehefin

Talwch ar-lein ble’n bosibl

Y ffordd hawsaf i dalu am y gwasanaeth yw ar-lein yn wrexham.gov.uk/gwastraffgardd. Os nad yw’n bosibl i chi dalu ar-lein, gallwch ffonio Gwasanaethau Stryd i dalu â cherdyn, ond mae’n debyg y bydd rhaid i chi aros i wneud hynny. Rydym ni’n argymell yn gryf eich bod yn talu am y gwasanaeth ar-lein.

Sticeri newydd ar gyfer 2022/23

Bydd pawb sy’n cofrestru yn cael pecyn sticer gyda sticer newydd, a ddylid ei arddangos ar gaead eich bin o fis Medi.

Gofynnwn i drigolion i BEIDIO â rhoi eu sticer newydd ar gaead eu bin nes fod y gwasanaeth newydd yn cychwyn ym mis Medi. Dylech barhau i arddangos eich sticer 2021/22 nes fod y gwasanaeth yn dod i ben ar 2 Medi.

Dim taliadau arian parod na sieciau

Yn y blynyddoedd diwethaf, cawsom nifer o gwsmeriaid a geisiodd dalu am y gwasanaeth drwy anfon arian parod neu sieciau atom. Mae’n rhaid i ni ailadrodd; nid oes modd i ni dderbyn y taliadau hyn.

Nid wyf eisiau adnewyddu’r gwasanaeth – a wnewch chi gael gwared ar fy min gwastraff gardd?

Gellir cael gwared ar unrhyw finiau gwastraff gardd diangen os gofynnwch chi. Ar ôl gofyn am gael gwared â’r bin, gall gymryd nifer o wythnosau i’r bin gael ei gasglu. Yn y cyfamser, gwnewch yn siŵr bod eich bin yn parhau i fod yn wag, yn hygyrch, ond heb ei adael allan gan achosi rhwystr.

Efallai y byddai’n werth cadw gafael ar eich hen fin gwastraff gardd am y tro oherwydd, os ceir gwared ar eich bin gwastraff gardd a’ch bod chi’n newid eich meddwl yn y dyfodol, codir tâl am un newydd.

Beth allai ei wneud gyda fy ngwastraff gardd os nad ydw i eisiau talu am y gwasanaeth casglu?

Gallwch fynd â’ch gwastraff gardd i un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref (yn rhad ac am ddim). Neu, fe allech gompostio’r gwastraff gardd gartref.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wrexham.gov.uk/gwastraffgardd

Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/gwastraffgardd”] RYDW I EISIAU TALU RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Falklands 40fed Gwasanaeth Coffa ac Aduniad y Falklands
Erthygl nesaf Gwyn Evans Hwyl Am Ddim i’r Teulu yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Gwyn Evans

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
Cyngor Wrecsam yn cefnogi nodyn atgoffa Cadwch Gymru’n Daclus – Creu Straeon Nid Sbwriel yr haf hwn! 
Y cyngor

Cyngor Wrecsam yn cefnogi nodyn atgoffa Cadwch Gymru’n Daclus – Creu Straeon Nid Sbwriel yr haf hwn! 

Awst 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English