Mae dwy ysgol uwchradd yn Wrecsam wedi derbyn adborth cadarnhaol gan Estyn, arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru.
Roedd Ysgol Uwchradd Darland yn Yr Orsedd ac Ysgol y Maelor yn Llannerch Banna wedi derbyn adolygiadau dilynol yn ddiweddar yn dilyn arolwg yn ôl yn 2019.
Mae Estyn o’r farn fod y ddwy ysgol wedi mynd i’r afael â’r argymhellion a wnaed, ac nad oes angen adolygiad pellach.
Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam:
“Mae hyn yn newyddion cadarnhaol ac yn adlewyrchu’n dda ar y ddarpariaeth addysg o ansawdd a ddarperir gan y ddwy ysgol yma i’w disgyblion.
“Gyda’r holl heriau mae’r ysgolion wedi eu hwynebu dros y flwyddyn ddiwethaf yn sgil y pandemig, mae’n galonogol gwybod bod Estyn wedi cydnabod ymdrechion y staff yn y ddwy ysgol.”
Dywedodd Simon Ellis, Pennaeth Ysgol Maelor:
“Rydym yn falch iawn fod gwaith caled ac ymroddiad ein staff addysgu wedi’i gydnabod, ac rydym yn datblygu enw da yn gyflym ar gyfer ein dulliau dysgu ac addysgu o ansawdd uchel.”
Ychwanegodd Joanne Lee, Pennaeth yn Darland:
“Rydym wrth ein bodd gyda’r adroddiad diweddar hwn. Mae Ysgol Uwchradd Darland wedi gweld gwelliannau sylweddol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf sydd wedi’i gydnabod gan Estyn.
“Hoffwn longyfarch y staff a llywodraethwyr am eu gwaith caled a’r ethos tîm.
“Hefyd, hoffwn ddiolch i rieni am eu cefnogaeth. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi gweld adegau anarferol, ac mae’r ffaith ein bod wedi gwneud cymaint o gynnydd yn ystod y cyfnod hwn yn dyst i ymroddiad ac egni pawb dan sylw.”