Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Adroddiad yn nodi gwaith caled staff a disgyblion at ysgol gynradd leol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Adroddiad yn nodi gwaith caled staff a disgyblion at ysgol gynradd leol
Busnes ac addysgY cyngor

Adroddiad yn nodi gwaith caled staff a disgyblion at ysgol gynradd leol

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 21, 2018 3:50 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Adroddiad yn nodi gwaith caled staff a disgyblion at ysgol gynradd leol
RHANNU

Mae Pennaeth a staff yn Ysgol Y Santes Fair yng Nghymru, Brymbo yn dathlu ar ôl adroddiad diweddar gan Estyn sydd yn dangos fod arweinwyr yr ysgol a staff yn Ysgol Gynradd Eglwys y  Santes Fair a Gynorthwyir yn gweithio’n ddiwyd i greu amgylchedd cyfeillgar, gofalgar, lle mae disgyblion yn teimlo’n hapus, yn ddiogel ac yn mwynhau dysgu.

Fe ddaw’r newyddion da wrth i’r ysgol barhau â’i thaith tuag at welliant a chydnabod bod cwricwlwm yr ysgol yn aml yn ddeniadol a chyffrous, ac mae’r amgylchedd dysgu yn apelgar ac wedi’i drefnu’n dda.

WEDI METHU CASGLIAD BIN? GADEWCH I NI WYBOD.

Mae’r adroddiad yn sôn am berfformiad cryf mewn nifer o feysydd, gan gynnwys:

  • Mae’r ysgol yn datblygu dulliau cadarn wrth wneud gwelliannau.
  • Mae disgyblion yn ddymunol, yn gwrtais ac yn parchu teimladau pobl eraill.
  • Mae disgyblion yn ymddwyn mewn gwersi ac wrth symud o amgylch yr ysgol. Mae hyn yn sicrhau ethos weithio ddigynnwrf.
  • Mae gan athrawon ac oedolion eraill ddisgwyliadau uchel o ymddygiad y  disgyblion, ac maent yn defnyddio canmoliaeth yn gadarnhaol i annog disgyblion i ddyfalbarhau.
  • Mae nifer o ddisgyblion yn meithrin gwybodaeth gadarn o gysyniadau mathemategol ac maent yn fathemategwyr hyderus erbyn iddynt gyrraedd Blwyddyn 6.
  • Erbyn diwedd Blwyddyn Dau, mae nifer o ddisgyblion yn trefnu eu syniadau’n dda, ac yn cyflwyno darnau diddorol a deniadol o ysgrifen estynedig.
  • Mewn nifer o achosion, mae athrawon yn cynllunio gweithgareddau sydd yn ysgogi ac sy’n cyffroi gan ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion yn effeithiol.
  • Mae athrawon yn gweithio’n agos fel tîm effeithiol ac yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i gefnogi mentrau ar draws yr ysgol gyfan.
  • Mae gan y Pennaeth weledigaeth glir ar gyfer yr ysgol ynghyd â ffocws cryf ar wella safonau a bodloni anghenion cymdeithasol ac emosiynol y disgyblion.
  • Mae’r corff llywodraethu yn drefnus iawn ac yn darparu lefel dderbyniol o gefnogaeth a her i’r ysgol.

Fe nodwyd y cryfderau canlynol dan Arolygiad Adran 50 ar Addysg Grefyddol

  • Ymddygiad ac agwedd dda iawn gan y plant,
  • Safon dda ar gyfer addoli ar y cyd
  • Ethos gofalgar a chynhwysol yr ysgol.
  • Y modd y mae plant Ysgol y Santes Fair yn cael eu cefnogi gan bob oedolyn i gyflawni eu potensial
  • Yr amgylchedd cynhwysol a chyfleoedd i wella’r cwricwlwm y mae’r ysgol yn ei gynnig
  • Mae’r rhagolygon i wella yn y dyfodol yn dda.

 “Rydym wrth ein boddau”

Bu Pennaeth yr ysgol, Mr Bowers, yn canmol y staff am eu holl waith caled a’r disgyblion am eu hagwedd gadarnhaol tuag at ddysgu: “Rydym wrth ein bodd bod yr arolwg diweddar wedi cydnabod gwaith da sy’n cael ei gyflawni gan bawb yn Ysgol y Santes Fair, Brymbo. Rydym hefyd yn cydnabod yr angen i ddangos gwelliannau pellach i’n hysgol”.

Yn ogystal, fe soniodd Cadeirydd y Llywodraethwyr Mr Mathews am y sylwadau cadarnhaol yn yr adroddiad sydd yn canolbwyntio sut mae’r newidiadau i’r Llywodraethwyr wedi cefnogi’r ysgol i wella safonau: “Ein nod yw bod yn gyfaill beirniadol, gan ofyn cwestiynau heriol sydd yn canolbwyntio ar safonau a sut i wella ar y cynnydd y mae disgyblion wedi’i wneud”.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg: “Rwy’n hapus iawn gyda’r adroddiad calonogol yma. Mae’n rhaid llongyfarch yr holl staff a llywodraethwyr am eu hymdrechion yn sicrhau’r ffocws parhaus ar godi safonau ar gyfer eu disgyblion”.

Dywedodd Rosalind Williams, Cyfarwyddwr Addysg Esgobaeth Llanelwy “Rydym yn falch iawn bod Estyn ac arolygwyr Adran 50 wedi cydnabod gwaith caled staff a disgyblion yn Ysgol y Santes Fair ac rydym yn edrych ymlaen at gefnogi cynnydd yr ysgol yn y dyfodol”.

Mae’r ysgol yn edrych ymlaen at sicrhau bod y cynnydd da yn parhau.

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-525d4591-1e82-4383-921f-0eaadd6c7ff0/AF-Stage-d4b0718f-3b6a-4103-a4b7-3ae96da19278/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol GWYLIWCH: Myfyrwyr yn cael cipolwg ar gyfleusterau newydd mewn estyniad gwerth £1.5 miliwn i’w hysgol GWYLIWCH: Myfyrwyr yn cael cipolwg ar gyfleusterau newydd mewn estyniad gwerth £1.5 miliwn i’w hysgol
Erthygl nesaf Wrexham Victorian Christmas market Nadoligion Wrecsam…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 14, 2026
glyndwr
Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Digwyddiadau
Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Guildhall
Y cyngor

Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth

Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Medi 4, 2026
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English