Mae Safonau Masnach Wrecsam yn dymuno rhybuddio pobl yn dilyn cyfres o ddigwyddiadau ar draws Wrecsam yn cynnwys ‘cnocwyr Nottingham’, a elwir hefyd yn ‘werthwyr cadachau’.
Maent fel arfer yn hogiau ifanc fydd yn dod at eich drws gyda bag mawr du yn llawn cynnyrch glanhau sy’n amrywio o dyweli te, cadachau llestri a chadachau i chwistrellwyr, polish a hyd yn oed eitemau dillad.
Fodd bynnag, nid yn unig maent yn ceisio gwerthu eitemau o ansawdd gwael am brisiau uchel, ond maent hefyd yn gwirio targedau addas a gwerthu manylion i fwrglariaid proffesiynol. Mae nifer o bobl sydd wedi prynu eitemau gan gnocwyr Nottingham wedi dioddef bwrgleriaeth yn eu cartrefi yn fuan wedyn.
Yn wreiddiol o ardal Nottingham, byddai’r grŵp hwn yn dod i ‘gnocio’ ar ddrysau pobl i werthu, a dyna lle ddaw’r term cnocwyr Nottingham.
Bu adroddiadau diweddar ohonynt ar draws ardal Wrecsam ac mewn rhai sefyllfaoedd maent wedi bod yn ymosodol, sydd wedi dychryn ac achosi gofid i berchnogion tai. Mae Safonau Masnach yn eich cynghori i edrych drwy’r ffenestr gyntaf a pheidio agor y drws i unrhyw un nad ydych yn siŵr ohonynt.
Yr hydref hwn, bydd Safonau Masnach Wrecsam yn lansio Operation REPEAT, menter atal trosedd ar y cyd â Heddlu Gogledd Cymru. Mae Operation REPEAT yn anelu i ddiogelu perchnogion tai agored i niwed rhag unrhyw fath o dwyll a chamdriniaeth ariannol, fel y gallant barhau i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi.
Mae’r tîm y tu ôl i Operation REPEAT wedi bod yn ganolog i ddelio gyda chnocwyr Nottingham ers blynyddoedd. Maent yn dweud bod y dynion hyn yn teithio i ardal mewn faniau neu fysus mini ac yn gyffredinol yn gweithio mewn timau ar draws cymdogaeth.
Maent yn cyfaddef i fod yn gyn-droseddwyr sy’n ceisio dechrau o’r newydd ac efallai y byddant yn dangos cerdyn y tybir o’r cynllun prawf. Nid oes gan y cardiau adnabod hyn unrhyw draul cyfreithiol. Mae’r dynion ifanc yn delio gydag arian parod ar garreg drws ac os ydych wedi prynu ganddynt unwaith byddant yn dychwelyd eto i geisio gwerthu mwy i chi.
Mewn ardaloedd eraill, maent hyd yn oed wedi bod yn dreisiol ac wedi gorfodi eu ffordd i mewn i gartrefi pobl i gael mwy o arian parod. Ni adroddwyd ar hyn yn ardal Wrecsam hyd yma, ond mae’r dynion wedi bod yn ymosodol. Eto, cofiwch bod y gwerthwyr hyn yn droseddwyr proffesiynol a’r ffordd orau i gadw’n ddiogel yw peidio ymwneud â nhw.
Os bydd cnocwyr Nottingham yn ymweld â chi, rhowch wybod i Heddlu Gogledd Cymru gynted ag y gallwch drwy ffonio 101 i roi’r cyfle gorau i’r heddlu ddod i’ch ardal a dal yr unigolion. Ceisiwch gofnodi unrhyw fanylion, gan gynnwys rhif cofrestru cerbyd.
Fodd bynnag, os byddant yn eich bygwth neu’n eich trin yn ymosodol ar garreg y drws, deialwch 999 ar gyfer ymateb i argyfwng.
Os byddwch yn bryderus bod cnocwyr Nottingham wedi cysylltu â chi gallwch hefyd roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau i’r Gwasanaeth Defnyddwyr Cyngor Ar Bopeth ar 03454 040505.
Cadwch yn ddiogel rhag twyllwyr gyda’n rhybuddion!
Cofrestrwch i gael rhybuddion am sgamiau yma!