Yn ddiweddar darparodd AE Sewing Machines, cwmni sydd wedi’i leoli ar Ystâd Ddiwydiannol Vauxhall yn Rhiwabon, 100 o fisorau i orchuddio’r wyneb i Awyr Las – Elusen GIG Gogledd Cymru, er mwyn helpu gweithwyr allweddol drwy’r pandemig.
Casglodd aelod o dîm Betsi Cadwaladr y fisorau hyn yn ddiweddar ac yna cawsant eu dosbarthu i’r Ward Gofal Dwys a’r Uned Gofal Critigol yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
Mae AE Sewing Machines yn fusnes teuluol wedi’i leoli yn Wrecsam, ac mae’n un o gyflenwyr offer torri defnydd, gwnïo a gorffen mwyaf blaenllaw’r DU. Yn ogystal â darparu ystod eang o offer o safon uchel yn cwmpasu pob agwedd o weithgynhyrchu tecstilau, maent yn datblygu datrysiadau gwnïo pwrpasol i ddiwallu anghenion penodol eu cwsmeriaid ac maent yn ymfalchïo yn eu gallu i ddarparu gofal a chymorth o safon i gwsmeriaid.
Maent yn aelodau balch o Make it British, ac yn eiriolwyr amlwg dros Weithgynhyrchu ym Mhrydain ac yn gwneud pob dim o fewn eu gallu i gefnogi hynny.
AE Sewing Machines yn chwarae ei ran
Dywedodd y Cynghorydd Ward Lleol, David Bithell: “Gwych yw gweld busnes lleol, AE Sewing Machines, yn chwarae ei ran i helpu i ddiogelu gweithwyr y GIG yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae’r busnes hefyd yn darparu’r rhain fel arwydd bychan o ddiolch am yr holl waith anhygoel y maent yn ei wneud.”
Meddai Rhys Gerrard, Cyfarwyddwr Masnachol AE Sewing Machines: “Rydym wedi bod yn gweithio’n agos â Busnesau Prydain i gynhyrchu Cyfarpar Diogelu Personol drwy gydol y cyfnod clo, gan ddarparu peiriannau arbenigol a chymorth technegol, a byddwn yn parhau i wneud hyn am gyhyd ag y bydd angen. Diolch o galon i’r holl weithwyr allweddol sy’n gweithio’n galed ar y rheng flaen, rydym yn falch o allu bod yn rhan o gynhyrchu’r offer sydd ei angen i’w cadw’n ddiogel.”
LLUN: Rhys Gerrard, Cyfarwyddwr Masnachol AE Sewing Machines yn rhoi 100 o fisorau i Awyr Las.
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN