Rydym ni’n chwilio am Swyddog Gweithrediadau Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol i ymuno â’n tîm presennol i sicrhau bod ein rhwydwaith cludiant Addysg a Gofal Cymdeithasol yn cael ei weithredu’n effeithiol ac effeithlon o fewn yr adnoddau sydd ar gael.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Fel rhan o’r swydd bydd gofyn i chi wneud y canlynol:
- Cadw cofnodion a rhestrau cywir o’r holl gontractau cludiant
- Cadw cofnodion cywir o drwyddedau gweithredwyr cludiant, cerbydau a gyrwyr a ddefnyddir ar gyfer cludiant hur y Cyngor
- Cadw cofnod o anghysondebau contractau, a chymryd camau priodol yn erbyn perfformiad gwael, yn unol â’r canllawiau cyfredol
- Cynllunio a chyfrannu at fonitro contractau cludiant teithwyr
- Cyfrannu at gynllunio gwasanaethau Cludiant Cyhoeddus a Chludiant o’r Cartref i’r Ysgol diogel ac effeithlon
- Derbyn a phrosesu ceisiadau am gludiant
- Helpu i benderfynu a yw plentyn yn gymwys i dderbyn cludiant o’r cartref i’r ysgol neu’r coleg
Bydd deiliad y swydd yn gweithio yn Nepo Ffordd yr Abaty ar Stad Ddiwydiannol Wrecsam. Mae’r swydd yn addas i unigolyn brwdfrydig a gweithgar sydd â phrofiad o weithio mewn amgylchedd prysur sy’n gofyn llawer ac mae profiad mewn swydd debyg o fantais.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar wybodaeth helaeth o’r sir a’r ddealltwriaeth sydd ei hangen i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 18 Mawrth.
Oes gennych chi ddiddordeb? Ymgeisiwch yma
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH