Gyda thymor pwmpenni yn ei anterth, beth am droi’r darnau bwytadwy hynny yn ffriters, cyri, neu hyd yn oed smwddi, yn hytrach na gadael iddyn nhw fynd yn wastraff? Mae’r un peth yn wir am y llysiau angof hynny, cig rhost ddoe, neu ffrwythau aeddfed – mae tostis, omledau, a syndis iogwrt yn rhai syniadau blasus! Mae dod o hyd i ffyrdd newydd o ddefnyddio bwyd cyn iddo bydru yn rhoi boddhad, yn flasus, ac yn dda i’ch waled a’r blaned.
Os nad oes modd ei fwyta fe, ailgylcha fe:
Ar ôl iddyn nhw oleuo ein bro, gall y pwmpenni oleuo ein gerddi achos mae trigolion Wrecsam yn defnyddio tua 1,000 o dunelli o wellhäwr pridd a wnaed o wastraff bwyd a gardd wedi’i ailgylchu i bweru eu gerddi bob blwyddyn!

 
  
  
  
  
  
 
