Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ailgylchu dros y Nadolig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Ai dyma'r swydd i chi? Dyma ddetholiad byr o rai o’r swyddi sy’n wag ar hyn o bryd…
Ai dyma’r swydd i chi? Dyma ddetholiad byr o rai o’r swyddi sy’n wag ar hyn o bryd…
Busnes ac addysg
Terry Fox Run
Mae Ras Terry Fox yn dychwelyd
Digwyddiadau Pobl a lle
Tidy Wales Awards 2025
Gwobrau Cymru Daclus 2025 – mae’r enwebiadau nawr ar agor!
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
CBDC yn cyhoeddi Taith ‘Ein Crys Cymru’ cyn UEFA EWRO Menywod 2025
CBDC yn cyhoeddi Taith ‘Ein Crys Cymru’ cyn UEFA EWRO Menywod 2025
Digwyddiadau Pobl a lle
Pontcysyllte aqueduct
Dweud Eich Dweud yn Nyfodol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ailgylchu dros y Nadolig
Pobl a lleY cyngor

Ailgylchu dros y Nadolig

Diweddarwyd diwethaf: 2022/11/29 at 10:15 AM
Rhannu
Darllen 9 funud
Christmas presents
RHANNU

Gyda’r Nadolig yn nesáu mae’n debygol y byddwch yn casglu’r holl eitemau arferol, fel papur lapio, anrhegion a chardiau Nadolig i ddod ag ychydig o hwyl yr ŵyl i’ch teulu a’ch ffrindiau.

Cynnwys
Pa ddeunyddiau alla’ i eu hailgylchu?Papur lapioCardfwrddAilddefnyddio eitemauPoteli a chaniauGwastraff BwydCanolfan ailgylchu gwastraff y cartref

Pan fyddwch yn prynu pethau ar gyfer y Nadolig, ceisiwch ystyried os oes modd ailgylchu’r pethau hyn, a chwiliwch am ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu lle bo’n bosibl.

Meddai’r Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae gwybod pa ddeunyddiau y mae’n bosibl eu hailgylchu yn ddefnyddiol iawn pan fyddwch yn cynllunio ar gyfer y Nadolig. Mae papur lapio wastad yn enghraifft dda i’w ddefnyddio, gan fod rhai pobl yn meddwl bod modd ailgylchu pob math o bapur lapio, ond nid yw hyn yn wir.

“Yn y rhan fwyaf o achosion bydd fersiynau y mae’n bosibl eu hailgylchu ar gael, ac mae’n bwysig eich bod yn gwybod pa rai y mae’n bosibl eu hailgylchu fel y gallwch wneud dewisiadau gwybodus pan fyddwch yn prynu unrhyw un o’r eitemau hyn. Mae’r Nadolig yn gyfnod pan mae gan bobl fwy o ddeunyddiau na’r arfer, ac mi rydan ni eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn ailgylchu cymaint ohonynt ac y medrwn ni.”

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Pa ddeunyddiau alla’ i eu hailgylchu?

Peidiwch â phoeni – rydym am sôn am amrywiaeth o eitemau Nadoligaidd cyffredin i roi’r holl wybodaeth y byddwch ei hangen o ran pa eitemau y gellir eu hailgylchu a pha eitemau na ellir eu hailgylchu. Erbyn y diwedd, bydd gennych bopeth y byddwch ei angen i wneud penderfyniadau gwybodus ynglŷn ag ailgylchu.

Felly, gadewch i ni ddechrau gyda phapur lapio…

Papur lapio

Fel y soniodd y Cynghorydd Jones, dydi hi ddim yn bosib ailgylchu pob math o bapur lapio. Allwch chi ddim ailgylchu’r papur ffoil sgleiniog, felly peidiwch â’i brynu. Allwch chi chwaith ddim ailgylchu papur lapio gyda gliter arno.

Mae’r rhan fwyaf o bapur lapio disglair arall wedi’i lamineiddio, ac ni ellir ei ailgylchu chwaith. Mae hefyd angen i chi edych i weld os oes ychwanegiadau plastig ar y papur ac osgoi’r rhain.

Y newyddion da ydi bod pob math arall o bapur lapio’n iawn i’w ailgylchu. Os byddwch yn cadw draw o ffoil, gliter, papur wedi’i lamineiddio ac unrhyw ychwanegiadau plastig, dylech chi allu ailgylchu’r holl bapur lapio pan fyddwch wedi gorffen ei ddefnyddio… gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu unrhyw selotep ymlaen llaw ????

Awgrym: Gallwch chi ailgylchu cardiau Nadolig (heb gliter ac ar ôl tynnu unrhyw rubanau) yn ogystal ag amlenni gyda’ch papur yn eich bag glas / blwch uchaf y bin ar olwynion. Gallwch chi ailgylchu bagiau anrhegion cerdyn a phapur fel yma hefyd – ond cofiwch dynnu unrhyw handlenni nad oes modd eu hailgylchu.

Cymorth gyda chostau byw – hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi, lleihewch eich biliau, gofalwch am eich iechyd.

Cardfwrdd

Mae yna wastad ddigonedd o flychau cardbord ar hyd y lle adeg y Nadolig, ac mae’n bwysig ailgylchu’r rhain. Gwnewch yn siŵr eich bod yn tynnu unrhyw dâp, styffylau, papur swigod, haenau plastig ac ati cyn i chi ailgylchu eich bocsys.

Yn anffodus, dydi rhai ohonon ni ddim yn gwneud hyn… rydyn ni’n tynnu ein heitem o’r bocs heb feddwl pa ddeunyddiau eraill rydyn ni’n eu gadael ar ôl.

Hefyd, os byddwch chi’n gwasgu’ch bocsys yn fflat cyn eu hailgylchu yn eich bag glas/bocs uchaf y bin olwynion, byddwch yn gadael llawer iawn mwy o le i weddill eich cardfwrdd a phapurau.

Os oes gennych chi gardbord ychwanegol i’w ailgylchu: Gallwn gasglu cardbord glân wedi’i fflatio sydd wedi ei adael wrth ochr cynwysyddion ailgylchu cyn belled nad yw’n fwy o ran uchder neu led na sach las safonol.

Awgrym: Tynnwch unrhyw ddeunydd lapio ychwanegol, fel polystyren neu ffilm, oddi ar flychau cardbord cyn eu hailgylchu nhw.

Dydyn ni ddim yn casglu bagiau sbwriel ychwanegol sy’n cael eu gadael wrth ymyl eich bin sbwriel du/glas. Bydd yn rhaid i chi roi’r gwastraff yma yn eich bin sbwriel yn barod at eich casgliad nesaf neu, fel arall, ewch â’r bagiau sbwriel i un o’n canolfannau ailgylchu.

Ailddefnyddio eitemau

Allwch chi ddim ailgylchu rhubanau, felly os byddwch chi’n defnyddio’r rhain, ystyriwch eu cadw i’w hailddefnyddio’r flwyddyn nesaf.

Os bydd rhywun yn rhoi teledu neu chwaraewr CDs newydd i chi’n anrheg Nadolig, meddyliwch beth allwch chi ei wneud gyda’r hen rai. Fe fyddai siop ailddefnyddio Nightingale House yng nghanolfan ailgylchu Bryn Lane wth eu boddau’n eu cymryd oddi arnoch chi.

Gallwch hefyd roi unrhyw anrhegion Nadolig nad ydych chi mo’u heisiau i’r siop ailddefnyddio. Fe fyddan nhw’n siŵr o fod yn ddiolchgar iawn.

Poteli a chaniau

Mae’n debyg y bydd gennych chi fwy o boteli gwydr, poteli plastig a chaniau alwminiwm nag arfer hefyd dros y Nadolig, ond cofiwch eu hailgylchu yn yr un modd ag y byddech chi’n ei wneud weddill y flwyddyn.

Os bydd eich bocsys ailgylchu chi’n gorlenwi, fe allwch chi adael unrhyw ddeunyddiau dros ben i’w hailgylchu mewn bagiau plastig clir wrth ymyl eich blychau ailgylchu ar y diwrnod casglu, ac fe awn ni â nhw i’w hailgylchu (gan adael y bagiau plastig i chi eu hailddefnyddio).

Ond os oes gennych chi ddeunyddiau ychwanegol i’w hailgylchu, cofiwch wahanu’r deunyddiau fel y byddech chi’n ei wneud fel arfer…er enghraifft, os oes gennych chi boteli gwydr a phlastig dros ben, rhowch y rhai plastig mewn un bag clir a’r rhai gwydr mewn bag clir ar wahân.

Awgrym: Fe allwch chi ailgylchu tuniau fferins mawr gyda’ch caniau a’ch plastigau yn eich blwch olwynion/blychau ailgylchu.

Gwastraff Bwyd

Mae’r Nadolig hefyd yn golygu y bydd gennych chi lawer o esgyrn twrci a bwyd dros ben y gallwch chi eu hailgylchu yn eich cadi bwyd, felly peidiwch ag anghofio ailgylchu’ch sbarion.

I atgoffa’ch hun o ba fwydydd y gallwch chi eu hailgylchu, cymerwch olwg ar y yma.

Peidiwch ag anghofio y gallwch barhau i gael eich bagiau bin bwyd am ddim drwy glymu bag bin bwyd gwag i handlen eich bin bwyd ar ddiwrnod casglu a bydd y criw ailgylchu yn gadael rholyn newydd i chi.

Os yw’n haws, fe allwch gael rhai o’n bagiau cadi am ddim o’r lleoliadau sy’n eu cadw i ni yn Wrecsam – mae dros 40 o leoliadau yn gwneud hyn bellach! Tarwch olwg ar y rhestr lawn yma…

Awgrym: Fe allwch chi fynd â choed Nadolig go iawn i gael eu hailgylchu yn ein canolfannau ailgylchu, os na wnân nhw ffitio yn eich bin gwyrdd.

Canolfan ailgylchu gwastraff y cartref

Fe allwch chi fynd â nifer o eitemau eraill i un o’n canolfannau ailgylchu. Cymerwch olwg ar y rhestr hon o ddeunyddiau y gallwch chi eu hailgylchu yn ein canolfannau ailgylchu.

Diolch i chi am roi o’ch amser i ddarllen y blog yma, ac fel arfer, diolch am ailgylchu 🙂

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI

Rhannu
Erthygl flaenorol My Tree Our Forest Gall pob cartref yng Nghymru gasglu a phlannu coeden wrth i 50 o ganolfannau agor ledled y wlad
Erthygl nesaf Football Twrnameintiau Pêl-droed Ysgolion Cynradd Wrecsam Egnïol

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ai dyma'r swydd i chi? Dyma ddetholiad byr o rai o’r swyddi sy’n wag ar hyn o bryd…
Ai dyma’r swydd i chi? Dyma ddetholiad byr o rai o’r swyddi sy’n wag ar hyn o bryd…
Busnes ac addysg Mehefin 27, 2025
Terry Fox Run
Mae Ras Terry Fox yn dychwelyd
Digwyddiadau Pobl a lle Mehefin 27, 2025
Tidy Wales Awards 2025
Gwobrau Cymru Daclus 2025 – mae’r enwebiadau nawr ar agor!
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle Mehefin 27, 2025
CBDC yn cyhoeddi Taith ‘Ein Crys Cymru’ cyn UEFA EWRO Menywod 2025
CBDC yn cyhoeddi Taith ‘Ein Crys Cymru’ cyn UEFA EWRO Menywod 2025
Digwyddiadau Pobl a lle Mehefin 26, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Terry Fox Run
DigwyddiadauPobl a lle

Mae Ras Terry Fox yn dychwelyd

Mehefin 27, 2025
Tidy Wales Awards 2025
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Gwobrau Cymru Daclus 2025 – mae’r enwebiadau nawr ar agor!

Mehefin 27, 2025
CBDC yn cyhoeddi Taith ‘Ein Crys Cymru’ cyn UEFA EWRO Menywod 2025
DigwyddiadauPobl a lle

CBDC yn cyhoeddi Taith ‘Ein Crys Cymru’ cyn UEFA EWRO Menywod 2025

Mehefin 26, 2025
Pontcysyllte aqueduct
Pobl a lle

Dweud Eich Dweud yn Nyfodol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Mehefin 23, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English