Yn ddiweddar bu i ni gyfarfod â’n tenantiaid ym Marchnad y Cigyddion a’r Farchnad Gyffredinol i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y cynnydd ar y cynlluniau i ailwampio’r marchnadoedd i’w gwneud yn addas i’w defnyddio am sawl blwyddyn arall.
Dangoswyd cynigion y dyluniad amlinellol arfaethedig o’r adeiladau rhestredig i’r masnachwyr ac rydym yn gweithio gyda nhw i nodi safle masnachu addas yn ystod y gwaith datblygu.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Mae’r gwaith ailwampio yn rhan o gynlluniau Cynllun Treftadaeth Treflun Wrecsam a bydd gwaith ar y rhan hanesyddol hwn o Wrecsam yn dechrau unwaith bydd y cynlluniau a’r caniatâd ar waith.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol ar gyfer yr Economi, “Mae ond yn iawn mai’r masnachwyr yw’r cyntaf i glywed am ein cynlluniau ac i roi eu hadborth cyn bod y cynlluniau terfynol ar waith.
“Mae yna lawer o waith i’w wneud eto gan fod y ddau ohonynt yn adeiladau rhestredig ac mae’n rhaid i ni sicrhau nad oes dim byd a allai fod yn niweidiol i un o’r rhestriadau yn cael ei gynnig.
“Mae’r gwaith yn ffurfio rhan o’r rhaglen adfywio canol tref ehangach sydd wedi arwain at wella ac adnewyddu sawl adeilad yn y rhan yma o’r dref.”
“Agorwyd Marchnad y Cigyddion yn 1848 ac agorwyd y Farchnad Gyffredinol yn 1879. Nid oes unrhyw waith adnewyddu helaeth wedi’i wneud ar yr un o’r ddau ac mae’n amser i ni edrych i ddyfodol y tenantiaid presennol a thenantiaid y dyfodol i sicrhau bod y ddwy farchnad yn ffynnu yng nghanol y dref.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL