Mae’r Hwb Cyfeillion yn gymuned o unigolion a grwpiau sy’n dod at ei gilydd i gwrdd â phobl newydd, i fwynhau, a chydweithio i wella mynediad a chynhwysiant i bobl ag anableddau, neu unrhyw un sy’n wynebu rhwystrau i Gynhwysiant.
Rhedir y grŵp gan yr aelodau eu hunain.
Rydym yn chwilio am sefydliad i’n helpu i sefydlu’r Hwb fel grŵp annibynnol, creu cyswllt ag asedau cymunedol a’i helpu i dyfu.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Rydym am i chi wneud hyn gyda ni, ac nid i ni.
Rydym yn chwilio am sefydliad i weithio gyda’r Hwb Cyfeillion am chwe mis i feithrin sgiliau’r grŵp, helpu gyda gwaith datblygu cymunedol sy’n seiliedig ar asedau a’i gefnogi i fod yn grŵp annibynnol sy’n arwain ei hunan.
Allech chi ein helpu i dyfu fel cymuned?
Allech chi ein helpu i ddatblygu unigolion i fod yn arweinwyr cymunedol ac actifyddion?
Ydych chi’n rhannu ein gwerthoedd o ran cydraddoldeb a hyrwyddo hawliau pobl anabl i chwarae rôl weithredol yng nghymunedau Wrecsam?
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Os ydych yn meddwl mai chi yw’r sefydliad iawn i weithio gyda ni, rydym yn gofyn i chi gyflwyno fideo fer, dim hirach na 10 munud i:
- Sôn am eich sefydliad.
- Dweud pam mae gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda ni.
- Sôn am y dull y byddech yn ei ddefnyddio i’n helpu i gyflawni canlyniadau’r Hwb Cyfeillion.
- Dweud sut y byddech yn gweithio gyda ni / beth fyddech yn ei wneud?
- Byddwn yn croesawu fideos a gyflwynir yn Gymraeg neu Saesneg
Dylai’r fideo fod yn hygyrch i bobl ag amrywiaeth o anableddau.
I gofrestru’ch diddordeb neu i gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan Gwerthwch i Gymru
https://www.sell2wales.gov.wales/search/show/Search_View.aspx?ID=DEC353448
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno dyfynbrisiau: 12 hanner dydd, dydd Mawrth 22 Rhagfyr 2020.
Lawrlwythwch yr ap GIG