Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Amdani i gael Cymru i rif 1…BYDD WYCH. AILGYLCHA.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
wellbeing hub
Digwyddiad Atal Cwympiadau
Pobl a lle
Glyndwr National Park
Ymgynghoriad yn agor ar Barc Cenedlaethol Glyndŵr arfaethedig
Arall Pobl a lle
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Digwyddiadau Pobl a lle
foster wales
Panel maethu Wrecsam – ai chi yw hwn?
Pobl a lle Y cyngor
R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK
Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Amdani i gael Cymru i rif 1…BYDD WYCH. AILGYLCHA.
Y cyngor

Amdani i gael Cymru i rif 1…BYDD WYCH. AILGYLCHA.

Diweddarwyd diwethaf: 2021/03/05 at 2:51 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Amdani i gael Cymru i rif 1...BYDD WYCH. AILGYLCHA.
RHANNU

Gyda 92% o bobl yng Nghymru bellach yn ailgylchu yn rheolaidd*, mae Cymru gam yn nes at gyflawni ei hymgyrch Wych o gyrraedd rhif un yn y byd am ailgylchu.

Er gwaethaf yr heriau a ddaeth i’n rhan yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae cyfradd ailgylchu Cymru ar ei gorau (65%**) ac mae 55%* ohonom bellach yn ailgylchu mwy nag yr oedden ni 12 mis yn ôl.

Mae Cymru wedi dangos ei ysbryd gwych ac mae hi eisoes yn y trydydd safle yn y byd, ond dyw hanner ohonom dal ddim yn ailgylchu popeth allwn ni, ac mae peth ffordd i fynd eto.

Mae ailgylchu yn un o’r ffyrdd hawsaf o helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd o’n cartrefi gan ei fod yn helpu i warchod adnoddau naturiol ac yn arbed ynni, gan arafu effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Ymunwch â ni i gefnogi ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. Cymru yn Ailgylchu, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, er mwyn helpu i amddiffyn dyfodol ein planed.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant:: “Rydyn ni’n cefnogi Ymgyrch Wych Cymru yn Ailgylchu i gyrraedd rhif un yn y byd am ailgylchu. Gallwn ni i gyd chwarae ein rhan drwy ailgylchu popeth o fewn ein gallu yn y cartref – boed yn fwyd gwastraff, fel plisgyn wyau, croen ffrwythau a llysiau o’r gegin, neu drwy ailgylchu poteli siampŵ a gel gwag o’r ystafell ymolchi. Rydyn ni wedi dangos bod gennym ni’r gallu i sicrhau mai hon fydd ein blwyddyn ailgylchu orau erioed, felly gadewch i ni barhau â’n hymdrech wych i arwain Cymru i rif un yn y byd.”

Mae Cymru yn Ailgylchu wedi rhannu ei bum awgrym gorau ar gyfer ailgylchu o’ch cartref y Gwanwyn hwn:

1. Ewch yn wyrdd wrth dwtio’ch cartref

Gellir ailgylchu poteli cynnyrch glanhau gwag – o boteli cannydd plastig i chwistrellwyr ac erosolau sglein dodrefn. Gofalwch eu bod yn wag a rhowch nhw yn eich ailgylchu yn lle eu taflu. Bydd ailgylchu un botel chwistrellu yn unig yn arbed digon o egni i wefru chwe thabled.

2. Cliriwch eich annibendod

Y Gwanwyn yn draddodiadol yw’r amser i gael rhyw fath o drefn yn y cartref. Yn lle taflu eitemau, edrychwch ar Lleoliad Ailgylchu Cymru yn Ailgylchu i gael mwy o wybodaeth am ble i ailgylchu eitemau fel batris, dillad ac eitemau trydanol bach.

3. Trowch eich gwastraff bwyd yn ynni

Os ydych chi’n coginio, rhowch yr holl wastraff bwyd na allwch ei fwyta fel crwyn a choesynnau llysiau yn eich cadi gwastraff bwyd, ynghyd â phlisgyn wyau ac unrhyw esgyrn sy’n weddill o gig neu bysgod. Gellir ailgylchu grownds coffi a chroen ffrwythau hefyd. Gall un croen banana wedi’i ailgylchu gynhyrchu digon o egni i wefru dau ffôn smart.

4. Dangosa i boteli’r ystafell molchi pwy di’r bos

Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o eitemau plastig yn y cartref gan gynnwys cynhyrchion ymolchi o’r ystafell ymolchi fel poteli siampŵ, cyflyrydd, sebon dwylo a gel cawod plastig. Pan fyddan nhw wedi gorffen, rhowch rinsiad iddyn nhw a’u rhoi yn eich cynhwysydd ailgylchu. Mae’n cymryd 75% yn llai o egni i wneud potel blastig o blastig wedi’i ailgylchu o’i gymharu â defnyddio deunyddiau ‘crai’, felly beth am warchod y blaned o’ch ystafell ymolchi drwy ailgylchu.

5. Chwalu’ch chwistrellwyr

Gellir ailgylchu pob math o ddiaroglyddion, siampŵ sych ac erosolau aer gwag. Mae metel yn anfeidrol sy’n golygu y gellir ei ailgylchu dro ar ôl tro heb golli dim o’i ansawdd. Ymunwch â’r 73% o bobl yng Nghymru sydd eisoes yn ailgylchu eu caniau erosol gwag.

Dysgwch fwy yn: http://byddwychailgylcha.org.uk/

*Arolwg Traciwr Bach Cymru yn Ailgylchu (Hydref 2020)
**Ystadegau Cymru

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://bipbc.gig.cymru/covid-19/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/ystadegau-brechu-lleol-ar-gyfer-gogledd-cymru1/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Recycling A ydych yn defnyddio Canolfan Ailgylchu y Lodge Brymbo?
Erthygl nesaf Classroom Adolygiadau dilynol cadarnhaol i ddwy ysgol yn Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

wellbeing hub
Digwyddiad Atal Cwympiadau
Pobl a lle Medi 16, 2025
Glyndwr National Park
Ymgynghoriad yn agor ar Barc Cenedlaethol Glyndŵr arfaethedig
Arall Pobl a lle Medi 16, 2025
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Mae Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam fis Hydref
Digwyddiadau Pobl a lle Medi 15, 2025
foster wales
Panel maethu Wrecsam – ai chi yw hwn?
Pobl a lle Y cyngor Medi 15, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

foster wales
Pobl a lleY cyngor

Panel maethu Wrecsam – ai chi yw hwn?

Medi 15, 2025
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y cyngor

Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd

Medi 11, 2025
Ty Pawb
Pobl a lleY cyngor

Tŷ Pawb yn derbyn grant Cyngor Celfyddydau Cymru o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru o £8m

Medi 11, 2025
Wrexham Guildhall
Y cyngor

Cyngor Wrecsam yn croesawu canfyddiadau cadarnhaol o’r Asesiad Perfformiad Panel cyntaf

Medi 10, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English