Eleni, bydd Apêl y Pabi yn un arbennig iawn, oherwydd ei fod yn nodi 100 mlynedd ers diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf.
I nodi’r lansiad arbennig hwn bydd 50 o feicwyr modur yn cyrraedd Neuadd y Dref ddydd Sul i gwrdd â’r Maer, y Cynghorydd Andy Williams, wrth i apêl flynyddol y pabi ddechrau yn Wrecsam.
Arhosodd y Beicwyr dros nos yng Nghaer cyn mentro ar eu taith o Ogledd Cymru, gan ddechrau yn Wrecsam i osod torch yn Senotaff Bodhyfryd, cyn galw heibio Llangollen, Porthmadog, Caernarfon a Llandudno.
Meddai’r Maer: “Bydd yr olygfa o gymaint o feicwyr yn cyrraedd ac yn gadael Neuadd y dref yn un anhygoel, nid yw’n olygfa rydych yn ei gweld bob dydd! Hoffwn ddiolch iddynt am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad i apêl y Lleng Brydeinig. Rwy’n gwybod y bydd pobl Wrecsam yn gwerthfawrogi eu hymdrechion a byddant yn cefnogi apêl eleni fel bob blwyddyn.”
Bydd y beicwyr modur yn cyrraedd Neuadd y Dref am 09:00 ac yn siarad gyda’r Maer cyn gadael am Langollen am 10:15.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/KMS/elab.aspx?noip=1&CampaignId=766&SessionId=7W3XW8KTF6&language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN[/button]
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN I[/button]