Mae’r alwad gyntaf am brosiectau Cronfa Ffyniant Gyffredin y DY yn Wrecsam bellach yn fyw a bydd yn parhau ar agor tan hanner dydd ar 24 Chwefror 2023.
Dyrannwyd £22,684,205 i Wrecsam i ariannu cynigion sy’n cefnogi:
• Cymuned a Lle
• Cefnogi Busnesau Lleol
• Pobl a Sgiliau
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam ac Aelod Arweiniol Cyllid: “Mae’r alwad gyntaf ar gyfer ceisiadau SPF yng Ngogledd Cymru bellach yn fyw, sy’n newyddion gwych i Wrecsam.
“Rydym eisiau i grwpiau a sefydliadau lleol gymryd mantais o’r cyfle gwych hwn, felly os ydych yn gweithio ar brosiect a fydd yn helpu i gynyddu balchder lleol a chyfleoedd bywyd yn y fwrdeistref sirol, ewch i gael golwg – gallai hwn fod yn gyfle gwych i sicrhau’r cyllid rydych ei angen.
“Mae’r SPF yn edrych am fentrau sy’n cefnogi cymunedau, busnesau a mentrau sgiliau oedolion, ac mae mwy o wybodaeth ar wefan Cyngor Wrecsam.”
Sut i wneud cais
Mae gwybodaeth bwysig am y broses ymgeisio a sut i wneud cais ar ein gwefan ac rydym yn eich annog i ddarllen popeth cyn ymgeisio.
Os ydych angen mwy o wybodaeth neu drafod eich cynnig cysylltwch â sharedprosperityfund@wrexham.gov.uk
Os yw eich cynnig yn cynnwys mwy nag un ardal awdurdod lleol cysylltwch â enquiries@SharedProsperityNorth.Wales
Missed bin collection? Let us know quickly and easily online.
REPORT A MISSED BIN