Mae’n gwestiwn digon cyffredin.
Fe allai rhywun fod yn anfodlon â’r gwasanaeth y maen nhw’n ei gael, neu’n flin oherwydd rhai o’r ffyrdd mae ein gwasanaethau’n gweithio.
A’r peth cyntaf y mae pobl yn tueddu i’w ofyn yw “Ar beth mae fy Nhreth Cyngor i’n cael ei wario?”
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Wel, dyma’r lle i ddysgu mwy am hynny!
Mae gennym ni ddadansoddiad isod – ac fe allai rhai o’r ffigurau eich synnu!
Er gwybodaeth
Rydym wedi defnyddio’r ffigurau sydd wedi’u seilio ar y swm blynyddol o Dreth y Cyngor a delir gan eiddo Band D.
Y rheswm am hyn yw yr ystyrir Band D yn fand canolig, ac mae symiau pob band arall yn cael eu cyfrifo ohono, gan leihau neu gynyddu’r swm sy’n daladwy wrth i chi fynd i fyny neu i lawr yr wyddor rhwng A ac I.
Rydym am gadw’r symiau a’r dadansoddiad yn eithaf syml – ond os hoffech chi eu harchwilio ymhellach, mae manylion yr amrediadau llawn sy’n daladwy i’w gweld ar ein gwefan.
Dadansoddiad
Mae’r siart isod yn rhannu gwariant yn nifer o gyllidebau a meysydd cyfrifoldeb allweddol.
Mae llawer o waith y mae’n rhaid i ni fel Cyngor ei wneud, gan wynebu llawer o bwysau a gofynion ar gronfeydd.
Er bod gwregysau gwariant cyhoeddus wedi tynhau a’r symiau a geir gan lywodraeth ganolog wedi gostwng, yng Nghyngor Wrecsam y ceir y Treth Cyngor Band D isaf yng Ngogledd Cymru o hyd, a’r seithfed isaf trwy Gymru a Lloegr.
Fel y gallech ei ddisgwyl, mae ein gwariant mwyaf yn mynd ar addysg/ysgolion a gofal cymdeithasol i oedolion, yna gofal cymdeithasol i blant a chasglu a gwaredu sbwriel.
Dyma rai o’n meysydd cyfrifoldeb mwyaf sy’n golygu ein bod yn gweithio gyda miloedd o bobl bob blwyddyn.
Ond efallai y byddech chi’n synnu ar rai o’r meysydd gwariant ymhellach i lawr y rhestr.
Llyfrgelloedd, Parciau a Threftadaeth – i gyd am ychydig dros £25 y flwyddyn!
Er enghraifft, mae’r Gwasanaeth Llyfrgell – sy’n cynnal 10 adeilad llyfrgell sefydlog ac yn darparu gwasanaeth Cyswllt Cartref; llyfrgell deithiol; adnoddau dysgu; tanysgrifiadau cylchgronau; Wi-Fi am ddim ac amrywiaeth eang o wasanaethau gwybodaeth ar ac oddi ar lein – yn costio dim ond £10.20 y flwyddyn i drethdalwyr!
Ac mae ein Parciau Gwledig a’n gwasanaeth mannau agored, sy’n rheoli saith parc gwledig awyr agored ledled y fwrdeistref sirol, yn cynnal digwyddiadau ac yn darparu gwasanaeth addysgol i blant yr ardal ar fanteision yr awyr agored, yn costio dim ond £10.48 y flwyddyn.
Ac mae’r arian sy’n cael ei wario ar y Celfyddydau a Threftadaeth, sy’n talu am Oriel Wrecsam, Amgueddfa Wrecsam (a’u hamrywiaeth o arddangosfeydd a digwyddiadau) ac am y gwasanaeth archifau, yn dod i gyfanswm o £6.48 yn unig.
Mae’r gwasanaethau hyn oll yn gofyn am lawer o waith caled ac yn cwmpasu meysydd eang – yn ddaearyddol ac o ran cyfrifoldeb ac ymdrech.
Felly efallai y cewch chi’ch synnu o ddysgu cyn lleied y maen nhw’n ei gostio i drethdalwyr unigol bob blwyddyn!
Efallai i chi sylwi hefyd yn y dadansoddiad ein bod yn casglu praeseptau a ffioedd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.
Rydym yn gwneud hyn i arbed y drafferth o anfon dau fil ar wahân i’n preswylwyr.
Mae unrhyw arian y byddwn ni’n ei gasglu ar ran y gwasanaethau eraill hyn yn mynd yn syth iddyn nhw, wrth gwrs.
“Llai na thanysgrifiad cylchgrawn neu drwydded teledu”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam a’r Aelod Arweiniol dros Gyllid, Perfformiad, Iechyd a Diogelwch a Llywodraethu: “Un o’r cwestiynau y mae aelodau’r cyhoedd yn tueddu i’w gofyn i gynghorwyr a darparwyr gwasanaethau yw i ble mae’r Treth Cyngor y maen nhw’n ei dalu yn mynd.
“Mae’n bwysig iawn i bobl gael gwybod beth sy’n digwydd gyda’u harian, ac rydym ni bob amser yn fwy na bodlon gwneud hynny’n gyhoeddus.
“Ond byddwn yn gobeithio bod hynny hefyd yn dangos y gwasanaethau anhygoel y gallwn ni eu cynnal a’u cynnig am lai o arian nag y byddai rhywun yn ei feddwl – mewn rhai achosion, llai na phris tanysgrifiad cylchgrawn neu drwydded teledu.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI